'Angen agweddau meddwl annibynnol Cymreig' medd Y Lolfa
- Cyhoeddwyd
Ar ben blwydd gwasg Y Lolfa yn hanner cant mae ei sefydlydd Robat Gruffudd yn dweud bod "angen annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig yn fwy nag erioed o'r blaen".
Roedd adeg sefydlu'r Lolfa yn 1967 yn gyfnod llawn cyffro ac y mae heddiw hefyd, medd Robat Gruffudd, yn "gyfnod llawn cyffro a newid ac rwy'n gobeithio'n fawr ein bod ni fel gwasg yn parhau i gyfrannu, mewn ffordd fach, at y gwaith pwysig ond diderfyn" o annog yr agwedd gywir.
Wrth ymateb i Cymru Fyw am y newidiadau mwyaf yn ystod yr hanner canrif dywedodd Mr Gruffudd: "Mae'r 50 mlynedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda chyfnodau anodd ond anorfod fan hyn a fan draw.
"Y llwyddiannau mwyaf o ran gwerthiant fu'r llyfr dysgu Cymraeg doniol Welsh is Fun a werthodd dros chwarter miliwn.
"Yn fwy diweddar, mae hunangofiant y dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi gwerthu mwy na 25,000.
"Mae cyfresi gwreiddiol i blant - Y Llewod gan Dafydd Parri a chyfres Rwdlan gan Angharad Tomos - wedi gwerthu yn arbennig o dda."
Ychwanegodd Mr Gruffudd: "Rydym wedi ehangu'n araf ar hyd y blynyddoedd gan gofleidio technoleg newydd sy'n hwyluso'r broses o gyhoeddi ac argraffu.
"Yn ddiweddar penodwyd golygydd Saesneg newydd i'n hadran olygu Saesneg a chyn hynny, pennaeth marchnata newydd."
Bydd gwasg Y Lolfa yn dathlu ei phen blwydd yn hanner cant trwy gyhoeddi fersiwn ffacsimili o'i llyfr cyntaf erioed, Hyfryd Iawn gan Eirwyn Pontshân.
Fe fydd y llyfr yn cael ei lansio mewn parti mawr yng nghanol tre Aberystwyth nos Sadwrn.
'100 llyfr y flwyddyn'
Dywedodd Mr Gruffudd: "Cafodd y llyfr ei ganmol ar y pryd am wreiddioldeb ei gynnwys a'i ddiwyg ac rwy'n credu ei fod yn dal i gynrychioli safbwynt hwyliog, Cymreig, annibynnol y wasg.
"O ran y degawd sydd i ddod rydym am barhau i gyhoeddi llyfrau o safon gan edrych ar gynyddu'r nifer o lyfrau sy'n cael eu cynhyrchu yn flynyddol i 100 llyfr y flwyddyn.
"Ar hyn o bryd rydym yn cyhoeddi 80 o deitlau y flwyddyn ar gyfartaledd - 20 teitl Saesneg a 60 teitl Cymraeg.
"Mae 'na wasgfa ariannol, wrth gwrs, ac y mae hynny wedi cael effaith heb os.
"Ond mae'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn parhau i fod yn weddol sefydlog a bywiog er gwaethaf yr heriau sydd yn wynebu'r iaith Gymraeg a'r toriadau i'r sector cyhoeddus."
Yn ogystal â chyhoeddi'r llyfr Hyfryd Iawn, bydd murlun newydd yn cael ei ddadorchuddio yn y parti gan yr artist Ruth Jên i ddathlu'r pen-blwydd aur. Ruth Jên arluniodd y murlun enwog ar wal y wasg ar y briffordd yn Nhalybont sydd bellach un o ddelweddau fwyaf adnabyddus Cymru.
Cafodd gwasg Y Lolfa ei sefydlu yn Nhalybont yn 1967 mewn cyfnod o brotest a chyffro ieithyddol. Datblygodd y cwmni'n raddol gan symud i Hen Swyddfa'r Heddlu yn 1978.
Dywedodd Garmon Gruffudd, rheolwr-gyfarwyddwr y wasg: "Y prif reswm dros ein llwyddiant dros yr hanner canrif yw ansawdd ein staff - eu profiad a'u sgiliau a'u brwdfrydedd ar yr ochr gyhoeddi ac argraffu - ac mae'r ddwy ochr o waith y wasg wastad wedi asio'n dda iawn."
Mae dathliad Y Lolfa yn digwydd yr un penwythnos â chynnal gŵyl y Fedwen Lyfrau.
Yn ystod yr ŵyl bydd, Alun Jones, un o olygyddion y Lolfa yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig am ei waith.