Prif weithredwr yr Urdd, Sioned Hughes i adael ei swydd
- Cyhoeddwyd
Mae Newyddion 9 wedi datgelu y bydd prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru yn gadael ei swydd, lai na dwy flynedd ers cael ei phenodi.
Roedd rhai staff, mae'n ymddangos, wedi codi pryderon ynglŷn â'r ffordd roedd yr Urdd yn cael ei redeg, a diffyg ffydd yng ngallu Mrs Hughes.
Cafodd Sioned Hughes ei phenodi gyda'r nod o arwain y mudiad ieuenctid at eu canmlwyddiant yn 2022, ac fe ddisgrifiodd ei phenodiad fel "braint a her".
Yn adroddiad blynyddol diweddaraf yr Urdd, dywedodd ei bod hi'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfnod cyffrous o flaen y mudiad.
'Cytuno ar y cyd'
Ond mae'n ymddangos bod y berthynas rhyngddi hi a staff yr Urdd wedi dirywio, hyd at bwynt lle penderfynodd yr ymddiriedolwyr ymyrryd.
Mae 12 o ymddiriedolwyr yn rhan o bwyllgor gwaith y mudiad, dan gadeiryddiaeth Tudur Dylan Jones, a nhw sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith y staff.
Does dim manylion pellach am natur y gwyn, ond does 'na ddim awgrym bod y prif weithredwr wedi camymddwyn na cham-weinyddu mewn unrhyw ffordd.
Doedd Sioned Hughes ddim am wneud unrhyw sylw.
Mewn datganiad dywedodd yr Urdd: "Mae'r mudiad a Sioned Hughes wedi cytuno ar y cyd bod ei chyflogaeth fel Prif Weithredwr yn dod i ben.
"Mae'r Urdd yn diolch iddi am ei gwasanaeth ac yn dymuno'n dda iddi yn y dyfodol."
Mae gan yr Urdd tua 53,000 o aelodau, a throsiant o £9m.