Brwydr yr iaith wedi ysbrydoli Gwyddel o Belfast i ddysgu Cymraeg

Paddy gyda'i wraig DanielaFfynhonnell y llun, Paddy Davidson
Disgrifiad o’r llun,

Paddy gyda'i wraig Daniela

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gwyddel Paddy Davidson o Belfast yn dweud bod dysgu Cymraeg a dysgu am frwydr yr iaith yn rhoi gobaith iddo am sefyllfa'r Wyddeleg.

Dywedodd wrth Cymru Fyw a hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg:

"Mae gen i ddiddordeb mawr ym mrwydr yr iaith yn y 60au a'r 70au ac mae'n ein hysbrydoli ni yma. Mae gennym dal gymuned wedi ei wahanu yng Ngogledd Iwerddon, a phobl yn erbyn yr iaith.

"Ond rydyn ni'n gwthio i gael ein hawliau. Os ydi rhywun eisiau cael eu haddysg drwy'r Wyddeleg, dylen nhw allu gwneud hynny."

Creu cymuned o siaradwyr ieithoedd Celtaidd

Fe ddechreuodd Paddy ddysgu Cymraeg arlein tua dwy flynedd yn ôl gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, ac mae'n dweud bod gwneud hynny wedi ei alluogi i fod yn rhan o gymuned o siaradwyr ieithoedd Celtaidd.

Yn ôl Paddy, sydd hefyd yn siarad Gwyddeleg, mae dysgu siarad iaith Geltaidd arall wedi gwneud iddo sylwi nad ydy siaradwyr ieithoedd Celtaidd ar eu pennau eu hunain, ac y dylai siaradwyr ieithoedd fel y Gymraeg, y Wyddeleg a Chernyweg ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Ychwanegodd: "Mae gen i ffrind sydd wedi cael ei ysbrydoli gen i i ddysgu Cymraeg, a rydyn ni hefyd yn siarad Gwyddeleg gyda'n gilydd felly mae hynny'n braf.

"I fod yn onest, dwi wedi dysgu llawer am hanes Cymru, cerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymru gan fy mod wedi syrthio mewn cariad gyda Chymru.

Paddy gyda'r cogydd chwedlonol Chris 'Flamebaster' RobertsFfynhonnell y llun, Paddy Davidson
Disgrifiad o’r llun,

Paddy gyda'r cogydd chwedlonol o'r rhaglen Bwyd Epic Chris, Chris 'Flamebaster' Roberts

Dysgu Cymraeg tra'n byw yn Belfast

Ond pa mor anodd yw ymarfer siarad Cymraeg â Paddy'n byw'n Belfast?

"Mae'n heriol ond dwi'n gwylio S4C, gwrando ar Radio Cymru neu gwneud ychydig o Say Something in Welsh neu ddarllen ychydig bach bob dydd.

"Dwi wedi sylwi yng Nghymru mae llawer mwy o ddeunyddiau ar gael i ddysgwyr, mwy nag i ddysgwyr Gwyddeleg."

Ond yr hyn sbardunodd Paddy i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf oedd adlewyrchu ar ei blentyndod yn Belfast a sylwi nad oedd yn ymwybodol o'r iaith Wyddeleg nes ei fod yn yr ysgol.

Eglurodd: "Pan o'n i'n blentyn do'n i ddim yn gwybod bod iaith Wyddeleg gyda ni yn Iwerddon.

"Mae llawer o bobl yma'n siarad Saesneg ond pan o'n i'n yr ysgol fe wnes i sylwi bod iaith Wyddeleg gyda ni felly dechreuais i ddysgu Gwyddeleg.

Ac ar ôl trip i Gymru ddwy flynedd yn ôl a chwrs preswyl yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn, roedd ganddo awch i ddysgu'r Gymraeg o ddifrif.

Dyweddodd: "Ro'n i wrth fy modd yn dysgu yn Nant Gwrtheyrn, es i i'r dafarn leol yn Llithfaen i sgwrsio gyda phobl leol.

"Ges i gwpwl o nosweithiau bendigedig yn canu a dysgais i gwpwl o ganeuon yn Gymraeg. Dwi'n caru siarad efo pobl."

Paddy gyda'i ferch DariaFfynhonnell y llun, Paddy Davidson
Disgrifiad o’r llun,

Paddy gyda'i ferch Daria

Adref gyda'i deulu; ei wraig Daniela a'u tri o blant, mae tair iaith ar yr aelwyd, Y Wyddeleg, Saesneg a Chroateg gan fod Daniela'n dod o Croatia.

Fel un na ddysgodd y Wyddeleg nes ei fod yn yr ysgol mae'n falch o allu cyflwyno'r Wyddeleg i'w blant ei hun fel iaith gyntaf:

"Ro'n i moyn bod y plant yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Wyddeleg yn yr ysgol felly ry'n ni'n siarad Gwyddeleg gartref.

"Mae gweld y diddordeb sydd gan bobl ifanc mewn Gwyddeleg ar hyn o bryd yn ffantastig. Mae mor wahanol i'r sefyllfa pan ro'n i'n tyfu i fyny yn Belfast 40 mlynedd yn ôl. Mae gennym 6 mil o blant yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Wyddeleg."

Mae Paddy hefyd yn dweud y byddai dysgu'r Wyddeleg yn brofiad haws i siaradwyr Cymraeg gan fod gan y Wyddeleg hefyd system dreigladau.

Felly beth yw cyngor Paddy i'r rhai sy'n dysgu'r Gymraeg, Y Wyddeleg neu unrhyw iaith arall?

"Triwch wneud rhywbeth bob dydd; darllen, edrych ar deledu neu wrando ar y radio. Gwnewch amser i hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: