Y bechgyn o Langollen sy'n beicio i Bangkok

- Cyhoeddwyd
Mae tri o fechgyn o'r gogledd-ddwyrain ar antur fythgofiadwy ar hyn o bryd, yn teithio ar gefn beic o Langollen i Wlad Thai.
Daw Dyfan Hughes a Louis Dennis o Langollen, gyda James Thomas yn dod o ardal Wrecsam.
Bydd y daith i dde-ddwyrain Asia'n cymryd dros flwyddyn, gan stopio mewn nifer o wledydd ar y ffordd.
Dechreuodd y daith yn Llangollen ar 2 Awst, ac mae'r bechgyn bellach yn nwyrain Bwlgaria, ddim yn bell o'r ffin â Thwrci.
Yn siarad gyda Cymru Fyw o ddinas Sliven ym Mwlgaria, esboniodd Dyfan pam eu bod nhw'n gwneud y daith yma.
"Mae gennyn ni ffrind o'r enw Harrison sy'n byw yng Ngwlad Thai, ac fe gollodd o ei dad yn ddiweddar, a 'dan ni'n seiclo ato fo. Roedd Harrison yn byw yn Cefn wrth Llangollen ac fe ddaethon ni'n ffrindiau da efo fo."
Bydd y tri'n hel arian at Sefydliad y Galon drwy wneud y sialens yma.

O'r chwith i'r dde; James, Dyfan a Louis yn profi diwylliant Ewrop ar y daith
Yn seiclo o ogledd Cymru i dde-ddwyrain Lloegr bu'r tri'n gwersylla, gan wneud y mwyaf o'r tywydd braf.
"Naethon ni groesi i'r Iseldiroedd, ac yna mynd drwy'r Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Serbia, Rwmania, a 'dan ni bellach yn Bwlgaria."
Y cynllun yw i seiclo i Dwrci yn y diwrnodau nesaf, a theithio ar hyd gogledd y wlad fewn i Georgia.
"'Dan ni am aros yn Georgia am bum mis, gan obeithio gweithio yno. Y rheswm 'dan ni am aros mor hir yn Georgia ydi am fod hi rhy oer i seiclo drwy Kazakhstan drwy'r gaeaf.
"Y gobaith ydi i weithio yn y resorts sgïo, ond wrach bydd rhaid ni ddewis unrhyw job sydd ar gael i ddweud y gwir.
"Nawn ni drio cael visa i fynd mewn i China, ond os 'dan ni ddim yn gallu, 'wrach bydd rhaid hedfan lawr i India."
'Popeth yn iawn' hyd yn hyn
Mae pethau'n mynd yn esmwyth ar y daith hyd yma, ac maent yn dechrau dod i arfer â her y ffyrdd.
"Hyd yn hyn mae popeth yn mynd yn iawn. Wrth gwrs, nifer fawr o punctures, ond 'dan ni'n gallu patsio rheiny fyny'n gyflym iawn bellach."
Doedd y bechgyn ddim wedi arfer beicio cyn dechrau ar yr her yma, fel yr esboniai Dyfan:
"Roedd y tri o'na ni'n eitha' ffit, ond bellach ma'n coesa' ni 'di tyfu!"
Yn wir, dim ond ddechrau'r haf eleni y gwnaeth y bechgyn brynu eu beiciau.
Yn ogystal â bod yn gefnogwyr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam, mae'r tri hefyd yn chwarae dros glwb Llangollen, felly maen nhw o leiaf wedi arfer defnyddio'u coesau!

Y tri tu allan i De Kuip, stadiwm clwb Feyenoord yn Rotterdam, yn Yr Iseldiroedd
Mae gan y bechgyn ddilyniant enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda 48,000 yn eu dilyn ar Instagram (west.heads) a 98,500 yn eu dilyn ar TikTok (@westheads).
Mae cynllun y tri yn eithaf tebyg bob dydd, gan ddilyn y map o'r gorllewin i'r dwyrain.
"'Dan ni'n dechrau seiclo tua 10 bob bore... 'dan ni ddim yn dda iawn am godi i fod yn onest. 'Dan ni'n cael brecwast yn y siop gyntaf 'dan ni'n gweld, a chael cinio tua 2 neu 3 y prynhawn.
"'Dan ni'n penderfynu bob bore ble 'dan ni am fynd, gyda'r bwriad o ffeindio rhywle i gysgu am y noson erbyn 6 y nos."

Y bechgyn yn gwneud ffrindiau yn Serbia
Ydy rhieni Dyfan, James a Louis yn poeni amdanyn nhw'n teithio ar eu pennau eu hunain mor bell?
"O'ddan nhw'n poeni lot ar y cychwyn, ond rŵan ma' nhw lot hapusach," meddai Dyfan.
Aeth ymlaen i ddweud fod y tri'n anfon negeseuon cyson nôl adref fel bod y teulu'n cael gwybod sut mae'r daith yn mynd.
Mae'r bechgyn yn bwriadu cyrraedd Gwlad Thai fis Hydref 2026, gyda'r gobaith y byddan nhw wedi casglu swm sylweddol i achos teilwng.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf