Arestio bachgen 14 oed ar amheuaeth o fygwth lladd

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi gweithredu i ddiogelu disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn dilyn digwyddiad a achosodd ysgol yn Sir Gâr i gau yn rhannol.

Honnir bod neges fygythiol wedi'i yrru i ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y bachgen wedi cael ei arestio nos Wener a bod ymholiadau yn parhau.

Ym mis Ebrill, cafodd merch 14 oed dedfryd 15 mlynedd am drywanu tri pherson yn yr un ysgol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mike Llewellyn: "Hoffwn sicrhau rhieni, a'r gymuned ehangach, fod camau gweithredu cyflym wedi'u cymryd i ddiogelu disgyblion ac i ddod o hyd i'r unigolyn sydd dan amheuaeth cyn gynted ag y derbyniwyd yr adroddiad hwn.

"Efallai y byddwch yn sylwi ar bresenoldeb heddlu uwch na'r arfer yn yr ardal dros y dyddiau nesaf – bydd y rhain yno i roi mwy o sicrwydd i'r rhai sy'n byw ac yn mynychu'r ysgol yn yr ardal."

Dywedodd Cyngor Sir Gâr dydd Gwener fod yr ysgol wedi'i rhoi dan glo yn rhannol am gyfnod byr fel rhagofal i sicrhau diogelwch disgyblion a staff.

"Cafodd gweithdrefnau diogelu eu gweinyddu'n gyflym gan staff... tra bod yr heddlu'n delio â mater," meddai.

"Parhaodd y gwersi fel arfer a chafodd y cyfyngiadau eu codi ar ôl i'r risg ddod i ben."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.