Sioc mam o ddarganfod bod ei mab yn ddall mewn un llygad

Mae Mabon yn benderfynol o beidio gadael i'r cyflwr ei atal rhag chwarae pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen saith oed mewn peryg o golli'i olwg oherwydd diagnosis hwyr o amblyopia, neu lygad ddiog.
Daeth y cyflwr i'r amlwg yn dilyn sgwrs anffurfiol gydag optegydd ynglŷn â sut mae rhieni'n blaenoriaethu apwyntiadau deintyddol, ond yn esgeuluso profion llygad.
Fe gafodd Mared Jones, o Ddinas Mawddwy, "sioc" o ddarganfod bod gan ei mab Mabon gyflwr sy'n golygu ei fod "mwy neu lai'n ddall" mewn un llygad.
Mae'r Gymdeithas Frenhinol dros Blant Dall yn dweud bod lles plant yn ddibynnol ar eu golwg, a bod angen cyfathrebu gwell ynglŷn â'r lefel o brofi sy'n digwydd mewn ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod plant pedair a phump oed yn cael prawf golwg yn yr ysgol, a bod profion llygaid am ddim yn cael ei ddarparu i bawb o dan 16 oed.

Dywedodd Mared Jones ei bod "wedi ypsetio yn ofnadwy bod ni ddim wedi pigo fyny ar hyn yn gynt"
Mae Mabon yn gwisgo sbectol, a bydd yn cael ei asesu eto mewn chwe mis, ond mae'r teulu ar ddeall mai ychydig iawn sy'n bosib i'w wneud i geisio adfer y golwg mewn un llygad.
"Aeth y ddwy ferch gyntaf, ac roedd popeth yn iawn," meddai Mared Jones.
"Ond oedd o'n amlwg yn syth bod Mabon ddim yn gweld o un llygad, bron o gwbl. Fe gafon ni dipyn o sioc.
"Doedd o ddim yn gweld lluniau, doedd o methu dweud y gwahaniaeth rhwng coeden ac awyren, ac mae Mabon yn saith oed – yn amlwg dyle bod o'n gallu dweud y gwahaniaeth.
"Mae o wedi effeithio fi ac ypsetio fi yn ofnadwy bod ni ddim wedi pigo fyny ar hyn yn gynt.
"O ran fo ei hun, lwcus, dydi o fawr callach achos mae o wedi cael ei eni fel hyn.
"Mae hynny yn chwarae ar fy meddwl i, bod o falle ddim yn mynd i gael y cyfle mae plant arall yn cael, achos mae 'na rai swyddi bydd o methu gwneud os na fydd y llygad yma yn gwella."
Beth yw amblyopia?
Mae ambyopia - sy'n aml yn cael ei alw'n llygad ddiog neu lazy eye - yn digwydd pan nad yw'r golwg yn datblygu'n llwyr mewn un llygad.
Mewn rhai achosion, mae arwyddion fel:
tro yn y llygad;
llygaid croes;
blincio'n aml;
poen pen.
Ond nid pawb sy'n dangos unrhyw symptopmau, ac felly dydyn nhw o bosib ddim yn sylweddoli bod unrhyw beth o'i le.
Dros amser, mae'r ymenydd yn dechrau ffafrio'r llygad gryfaf.
Mae'n bosib trin y cyflwr gyda sbectol neu trwy orchuddio un llygad, ond mae triniaeth yn fwy llwyddiannus cyn i blentyn gyrraedd saith oed.
Os nad yw'n cael ei ganfod pan mae'r plentyn yn ifanc, fel yn achos Mabon, gall y lygad wanaf golli ei golwg yn llwyr.

Mae nifer y plant sy'n mynd am brawf llygaid am ddim yn is na'r lefelau cyn pandemig
Dywedodd Mared Jones: "Doedden ni heb sylwi bod 'na broblem.
"Mae o'n chwarae pêl-droed a rygbi, mae'n gwneud ei waith ysgol yn dda a doedd ei athrawon methu credu'r peth chwaith.
"Dwi'n dyfalu ei fod, o bosib, wedi ei fethu [o'r rhaglen sgrinio ysgolion]
"Ai oherwydd Covid efallai? Mae o'n saith oed erbyn hyn."
Mae sgrinio golwg plant yn orfodol yng Nghymru ers 2015, ac yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan dimoedd nyrsio ysgolion i blant rhwng pedair a phump oed.
Yng Ngwynedd, lle mae Mabon yn mynd i'r ysgol, dywedodd yr arweinydd tîm nyrsio ysgolion fod "pob plentyn oedran derbyn yn yr ysgol yn cael cynnig prawf golwg trwy ddefnyddio siartiau LogMAR".

Mae ffyrdd o brofi llygaid plant mor ifanc â 18 mis, yn ôl yr optegydd Lowri Evans
Rhybudd yr optegydd Lowri Evans yw nad yw'r sgrinio yn cyfateb i gael prawf llygad llawn.
Dywedodd: "Mae modd i ni fesur anghenion plant mor ifanc â 18 mis oed.
"Er mwyn gwneud yn siŵr bod golwg eich plentyn yn cael ei asesu'n iawn, mae'n well mynd â'r plentyn at optegydd lleol.
"Dydy sgrinio yn yr ysgol ddim yr un fath â chael prawf llygaid gyda'ch optegydd lleol. Does dim modd iddyn nhw fesur faint o gymorth mae pob llygad ei angen.
"Y cwbl maen nhw'n gwneud yw mesur lefel craffter y plentyn - beth yw maint y llythrennau gall y plentyn ei weld."
Ychwanegodd bod llwybrau'r ymennydd yn newid ar ôl i'r plentyn gyrraedd wyth oed, ac mae'n gallu anwybyddu'r llygad wan.
"Weithiau mae angen mwy o amser ar y plentyn i gynefino gyda lens mwy cryf, ond maen bosib i'r llygad stopio gweithio yn gyfan gwbl," meddai Ms Evans.

Mae Rose Bell a Chloe Roberts yn dweud nad yw negeseuon cyhoeddus yn amlwg ar brofion llygaid i blant
Dywedodd rhieni yn Y Drenewydd eu bod yn teimlo nad yw'r mater yn cael digon o sylw.
"Na, dwi heb fod â'r plant am brawf llygad eto," meddai Chloe Roberts, sy'n fam i dri o blant.
"Oni bai eich bod chi'n ymwybodol bod rhywbeth [cyflyrau'r llygaid] yn rhedeg yn y teulu, dwi ddim yn meddwl bod rhywun yn meddwl mynd i checkio."
Ychwanegodd Rose Bell: "Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn cael ei bwysleisio digon, na'i wneud yn ddigon amlwg i ni fel rhieni ein bod yn medru cael tawelwch meddwl wrth fynd â'r plant am brawf blynyddol.
"Does dim cymaint o sôn amdano o'i gymharu â deintydd neu feddyg neu bethau felly."

"Rhestrau aros" i deuluoedd a phlant dall, meddai Helen Phillips o'r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Plant Dall
Yng Nghymru mae profion llygaid yn cael eu hariannu dan y GIG i rai dan 16 oed, ac i fyfyrwyr llawn amser rhwng 16 a 18 oed.
Mae canran y bobl sy'n mynd â'u plant i brofi eu llygaid wedi gostwng ers cyn y pandemig.
Aeth 8% yn llai o blant dan 16 oed am brawf yng Nghymru yn 2023-2024, o'i gymharu â 2020-2021.
Dywedodd y Gymdeithas Frenhinol dros Blant Dall bod canfod cyflyrau llygaid yn ifanc yn "hanfodol".
"Mae'r mwyafrif o'r rheiny sy'n cysylltu gyda ni mewn creisis oherwydd eu bod nhw [wedi cael diagnosis hwyr] ac yn chwilio am gymorth a heb gael cyfle i dderbyn cefnogaeth hyd yn hyn," meddai Helen Phillips o'r gymdeithas.
Dywedodd fod "gan yr elusen restrau aros" o blant sy'n disgwyl am gymorth.
"Ni'n ymwybodol o deuluoedd sy'n hwyr yn cyrraedd y system neu sydd heb gael eu cyfeirio i dderbyn cymorth o'r cychwyn."
'Byth yn rhy ifanc am brawf golwg'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu rhaglen sgrinio'r golwg mewn ysgolion yn cael ei gyflawni gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i blant pedair a phump oed.
Ychwanegodd fod hyn yn "sicrhau bod unrhyw broblemau yn cael eu dal tra mae golwg plant yn datblygu".
"Mae profion llygaid yn cael ei ddarparu trwy GIG Cymru ar gyfer pob plentyn hyd at 16 oed, ac i rai rhwng 16 a 18 oed sydd mewn addysg llawn amser," meddai llefarydd.
"Dyw plentyn byth yn rhy ifanc i gael eu cymryd i optometrydd am brawf golwg, ac mae'r Coleg Optometryddion yn awgrymu y dylid profi llygaid plant pob blwyddyn neu ddwy.
"Mae hyn yn allweddol er mwyn adnabod unrhyw broblem gyda'r llygaid yn gynnar."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023