'Wnes i ddysgu Cymraeg i fod yn rhan o gymuned Llanystumdwy'

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Anthea FowlerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Anthea Fowler

Cyn symud i Gymru fe wnaeth Anthea Fowler edrych ar y cyfrifiad a phenderfynu dysgu Cymraeg ar ôl gweld bod llawer o bobl yn siarad yr iaith yn yr ardal lle'r oedd hi eisiau byw.

Fe gafodd ei rhieni eu magu yng Nghymru ond doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg.

Roedden nhw wedi symud i Loegr oherwydd gwaith a magu Anthea yno - ond roedden nhw mynd yn ôl i Gymru am wyliau bob blwyddyn.

Roedd Anthea wedi byw yn ardal Penbedw, Stafford, Stoke-on-Trent a Manceinion ond yn 2021 fe benderfynodd hi a'i gŵr symud i fyw i Gymru. Cyn gwneud hynny wnaethon nhw ymchwilio i wybod mwy am yr ardal ac edrych ar ffigurau'r cyfrifiad.

"Roedd o'n dweud bod tua 80% o bobl yn siarad Cymraeg yn ardal Llanystumdwy so roedd yn amlwg roedd rhaid i ni ddysgu'r iaith yn gyflym i ddod yn rhan o'r gymuned," meddai mewn sgwrs ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.

Pwyllgor Tafarn Y Plu

Symudon nhw i bentref Llanystumdwy, ger Cricieth. Roedd Anthea methu siarad Cymraeg o gwbl ar y pryd ac mae'n cofio'r tro cyntaf aeth hi i ddigwyddiad ar gyfer siaradwyr Cymraeg a chyfarfod y trefnydd.

"Wnaeth o ddweud 'sut wyt ti?' a wnes i ddweud 'I'm really sorry I don't speak a single word of Welsh'. 'Not at all?' meddai o, 'nothing, nothing - I'm really sorry but I'm going to learn'."

Dechreuodd wersi Cymraeg, ac mae'n dal i gael gwers am wyth y bore, ddwywaith yr wythnos.

Erbyn hyn mae hi'n teimlo'n rhan o'r gymuned ac yn aelod o bwyllgor tafarn gymunedol Y Plu, sydd yn y pentref.

Fel cyfrifydd, mae hi'n gallu helpu gyda'r ochr ariannol ond mae hi nawr ddigon hyderus yn yr iaith i roi ei barn mewn cyfarfodydd Cymraeg.

Tafarn y PluFfynhonnell y llun, Sion Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tafarn y Plu, yn Llanystumdwy

"(Ar y dechrau) roedd yn anodd i ddeall pan roedd pawb yn siarad dros ei gilydd ar yr un pryd," meddai. "Roeddwn i'n drysu yn lân i ddechrau a ro'n i wedi blino'n lân ar ôl y cyfarfodydd. Ond rŵan dwi wedi dod i'r pwynt lle dwi'n gallu torri ar draws y sgwrs a dweud fy nweud."

Mae hi'n mynd i Dafarn Y Plu bob nos Wener i sgwrsio gyda phawb. Dywedodd bod dysgu'r iaith wedi bod yn anodd am y ddwy flynedd gyntaf cyn dod yn haws a gallu sgwrsio.

"Pan o'n i heb yr iaith o'n i yn gwrando ar y sgwrsio yn Y Plu ac yn trio amsugno'r geiriau a gwrando ar y radio drwy'r amser ac amsugno'r iaith…

"Roedd yna bwynt ar ôl dwy flwyddyn (pan oedd) geiriau jest yn syrthio allan o dy geg di a ti'n meddwl 'o mam bach o le mae hwnna'n dod?!'"

Mae'n dweud ei bod hi'n lwcus bod ganddi nifer o ffrindiau sy'n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a'i bod yn teimlo'n rhan o'r gymuned.

"Doeddwn i ddim eisiau bod y person sy'n gwneud i ystafell o bobl sy'n siarad Cymraeg siarad Saesneg - dydi hynny ddim yn gywir o gwbl," meddai.

"Dwi ddim yn deall pobl sy'n dod i rywle fel Llanystumdwy a ddim yn dysgu Cymraeg achos dwi ddim yn credu mae'n bosib ymgolli dy hun yn hollol yn y gymuned a theimlo yn rhan o'r gymuned (heb siarad yr iaith)."

Geirfa

cyfrifiad - census

penderfynu - to decide

magu - to raise/bring up

Penbedw - Birkenhead

Manceinion - Manchester

ffigurau - figures

cymuned - community

dathlu - to celebrate

methu - unable

digwyddiad - event

cyfarfod - to meet

trefnydd - organiser

dwywaith - twice

pwyllgor - committee

cyfrifydd - accountant

ariannol - financial

hyderus - confident

barn - opinion

cyfarfodydd - meetings

deall - understand

drysu yn lân - very confused

blino'n lân - very tired

dweud fy nweud - have my say

haws - easier

amsugno - absorb

ystafell - room

ymgolli - engrossed

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig