Siop Boots Caernarfon yn dathlu 50 mlynedd

Diwrnod agoriadol siop Boots Caernarfon yn y safle presennol, 1975
- Cyhoeddwyd
Mae siop Boots Caernarfon newydd ddathlu 50 mlynedd o fod ar stryd fawr y dref. Roedd y siop yn bodoli mewn lleoliad arall yn y dref cyn hynny, ond ar 26 Medi, 1975, fe agorwyd y siop ar Stryd Y Llyn, ble mae'n sefyll hyd heddiw.
Ar 26 Medi eleni roedd aduniad arbennig yng Nghaernarfon, gyda'r cyn-weithiwyr o'r siop dros y blynyddoedd yn rhannu atgofion o weithio yno.
Dwy ddynes a oedd yn gweithio yn y siop ar y diwrnod agoriadol yn 1975, ac a oedd hefyd yn gweithio yn y safle blaenorol, yw Llinos Eames Jones a Moira Owens.
Siaradodd y ddwy ar raglen Bore Cothi ar 14 Hydref, 2025.
"O'n i'n gweithio yn y siop ar Bridge Street am chwe wythnos yn dysgu'r rôl, ac es i'n syth wedyn i'r siop newydd yn 17 oed," meddai Llinos, a drefnodd yr aduniad.
Roedd agor y siop newydd yn dipyn o newid i'r dref yn ôl Llinos.
"O'dd cwsmeriaid yn y siop newydd yn dod efo list ac yn disgwyl bod chi'n ôl y stwff iddyn nhw, fel yr arfer yn yr hen siop. Am fod y siop newydd mor fawr roedd hi'n bosib dod mewn efo prams, ble roedd rhaid gadael y babis tu allan i'r hen siop – doedd 'na'm lle i chi droi bron iawn!
"Ond doedd pawb ddim yn licio'r siop newydd, yn enwedig y bobl hŷn, a oedd ddim yn deall y disgwyliad i nôl stwff eu hunan.
"Yn yr adran babis o'n i'n gweithio fwya'."
Yn ôl Llinos roedd yn arferiad yn yr hen siop i wneud y ffisig ac ati yn y siop.
"Erbyn i ni fynd i'r siop newydd o'dd popeth 'di newid i fod mewn potiau a tiwbs. Ges i sioc pan 'nath cwsmer ofyn i fi sut i ddefnyddio suppositories... 'nai'm deud be' odd yr ateb ro's i – 17 o'n i a do'n i ddim yn gwybod be' oedd suppository!"

Siop Boots Caernarfon heddiw
Mae Moira Owens hefyd yn cofio gweithio yn yr hen siop, a'r symud i'r safle newydd.
"Coeliwch chi fi 'o'dd o'n dipyn o beth mynd o'r siop fach 'na i'r siop anferth, luxurious 'ma - o'dd o mor grêt.
"Siop fach o'dd genna ni ac o'dd y cwsmeriaid yn dod atoch chi ac oeddech chi'n servio'r cwsmeriaid ar wahân.
"Pan oeddan ni yn y siop newydd 'ma oedd pawb yn helpu'i hun mewn ffordd. O'dd lot o'r hen bobl yn dal i ddod ata i isio eu petha' wythnosol, a doeddan nhw ddim yn hoff iawn o'r setting newydd, gan fo' nhw 'di arfer cael service gen y genod tu ôl i'r cowntar.
"Pan o'ddan ni yn yr hen siop o'ddan ni'n mynd mewn i'r dispensary ac o'ddan ni'n rhoi asafoetida i bobl – stwff afiach oedd yn drewi yn y ffordd mwya' ofnadwy. O'ddan ni'n gorfod ei fesur o i botel owns o'r botel fawr, a rhoi corcyn yn y botel – dim screw top!
"O'dd pobl yn ei gymryd o at annwyd, yn d'eud bod o'n 'neud chi chwysu a bo' chi'n gwella o annwyd – ond roedd rhaid i ni fesur bob dim.
"O'dd y dispensary'n gwneud creams eu hunan, o'ddan nhw ddim yn dŵad mewn potiau, o'ddan nhw'n cael eu gwneud ar y sgwâr 'ma, gyda'r dispenser yn 'neud o, gyda phob dim arall fel licris ac ati'n cael ei fesur lawr grisiau. O'ddan ni hyd yn oed yn gwerthu methylated spirits yn rhydd – 'san ni ddim yn cael gwneud hynny heddiw!"
Gwerthu cynnyrch i wneud cwrw
Yn ôl Moira roedd pobl ardal Caernarfon yn gallu prynu hopys o'r siop i wneud cwrw adref.
"O'ddan ni'n gwerthu fo (hopys) yn yr hen siop ac o'ddan ni'n gorfod pwyso'r hops pryd hynny. O'dd 'na sach anferthol. Tydi hops ddim yn pwyso llawer, felly pan oedd rhywun yn gofyn am hanner pwys oedd o'n fag anferthol.
"O'dd genna ni portar o'r enw Ifan Williams - briliant o berson! O'dd o'n gwneud cwrw yn y poteli demijohns 'ma a rhoi nhw'n ffenest y siop er mwyn i bobl gael gweld sut oedd y cwrw'n ffermentio ac yn dechrau byblo, ac 'nath gwneud cwrw fynd yn hobi mawr i lot o bobl."

Aelodau o staff y siop dros y blynyddoedd yn yr aduniad diweddar yng Nghlwb Golff Caernarfon
Newid arian
Dywed Moira fod dipyn o ddryswch yr adeg y newidiodd arian i'r system ddegoli.
"Fues i yn Y Rhyl am wythnos i ddysgu sut oedd mynd o pounds, shillings and pence i decimal, ac wedyn gorfod mynd nôl i'r hen siop yng Nghaernarfon i ddysgu'r staff.
"Oedd y peth yn ofnadwy – 'Mae 6c werth 2.5c newydd', 'be' ti feddwl? 6c 'di o!' 'naci 2.5c! a 100 ceiniog sydd mewn punt rŵan, dim 144'...
"Roedd y diwrnod a'th hi o pounds, shillings and pence i decimal yn ddiwrnod ofnadwy, a fi oedd yn delio efo'r til y diwrnod hwnnw!
"Dyma fi'n deud wrth y rheolwr, Mr Gruffudd Roberts, 'Da chi'n gwybod be Mr Roberts 'nawn ni ddim blansio heno!' Mi roedd pobl yn defnyddio hen arian ac arian newydd – hunlla' o ddiwrnod! Ond mi setlodd."
Dywed Moira ei bod wedi gweld newid yn y ffordd roedd y siop yn cael ei redeg dros y blynyddoedd.
"Mae'r ffordd mae'r siop yn cael ei gynnal rŵan yn hollol, hollol wahanol i sut oedd hi'n cael ei gynnal 50 mlynedd yn ôl. Oeddan ni'n gwneud stock-taking ar lyfrau bob pythefnos ac ordro stoc. Wel heddiw does neb yn gwneud hynny maen nhw jest yn cael be' mae Boots yn ei yrru mewn cages, does 'na'm pethau'n cael ei ordro fewn yn bersonol."

Mrs Auriel Howel a Mrs Gwyneth Hughes yn torri'r gacen yn yr aduniad
Yr aduniad
Dywed Llinos Eames Jones fod yr aduniad yng Nghlwb Golff Caernarfon wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda llawer o hel atgofion o chwerthin ymysg y cyn-gyd-weithiwyr.
"Y gŵr oedd 'di meddwl gan fod ni'n dathlu 50 mlynedd i gael parti – ei syniad o oedd o, nid fy un i. Felly gofynnon ni i gyn-aelodau staff os bydda 'na ddiddordeb i gael parti, ac mi roedd 'na, gyda 28 yno ar y noson, yn siarad am yr hen ddyddiau.
"Sna'm byd tebyg i'r hen amser. Fues i'n gweithio 'na am naw mlynedd, ac wedyn ges i blant a ddim mynd yn ôl, ond oedd y staff oedd yno ar ôl fi'n siarad am be' oedd 'di bod yn digwydd yno wedyn.
"Dwi'n cofio mynd efo'n nhroli lawr grisiau a dyma 'na focs mawr yn landio yn fy nhroli i a bron fi gael hartan. Be' oedd o ond un o'r staff oedd 'di mynd fyny yn y bocs a mynd ar ben y silff, a 'di llecho ei hun lawr pan o'n i'n pasio! O'dd hi yn y parti ac o'n i'n deud wrthi'r hanes... Mam bach!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin