Awtistiaeth: 'Beirniadu sgiliau rhieni'n annheg'

  • Cyhoeddwyd
AwtistiaethFfynhonnell y llun, JOVANMANDIC / GETTY IMAGES

Mae diffyg dealltwriaeth am gyflwr awtistiaeth wedi arwain at anfon rhai rhieni ar gyrsiau hyfforddi sgiliau magu plant heb fod angen, yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru.

Yn ôl un fam, roedd hi'n byw mewn ofn dyddiol y byddai rhywun yn rhoi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol amdani am fod pobl yn camgymryd symptomau cyflwr ei mab fel achos o esgeulustod.

Mae'r cyflwr yn effeithio ar allu unigolyn i gymdeithasu a chyfathrebu, ac mae'n gallu arwain at ymddygiad heriol.

Mae'r gyfreithwraig Julie Burton o Fangor yn teimlo fod sgiliau magu rhieni yn aml yn cael eu beirniadu'n annheg.

"Heb ddiagnosis mae'n debyg bod y gwasanaethau cymdeithasol yn meddwl efallai mai'r broblem ydy'r rhieni, a bod rhaid iddyn nhw fynd ar gwrs i fod yn rhieni gwell," meddai.

"Be 'da'n ni'n gweld ydy, siŵr o fod, bod y rhieni yn medru neud yn well, ond hefyd mae nhw angen help gyda'r plant, mae'r plant angen help ac mae'r rhieni angen gwybod dydyn nhw ddim ar fai."

Disgrifiad,

Yn ôl Julie Burton, mae sgiliau magu rhieni yn aml yn cael eu beirniadu'n annheg.

Sefydlodd Edward a Sharon Bateman elusen 'Creatasmile For Autism' yn 2009 yn dilyn ei profiadau gyda'u mab Ben sydd â'r cyflwr.

Mae'r elusen yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio ag awtistiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Creatasmile yn cynnig cymorth i deuluoedd plant sydd ag anghenion arbennig

Mae Edward Bateman yn gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu rhieni: "Fedran nhw ddim mynd allan, mae'r plentyn wedi cael meltdown, a ni'n delio efo fo pob dydd. Mae lot o rieni yn trio'u gorau i'r plentyn ond fedran nhw ddim neud o."

Ychwanegodd Mr Bateman ei fod e'n credu nad yw cyrsiau hyfforddi sgiliau magu plant yn effeithiol ar gyfer achosion o'r fath.

"Mae 'na bobol efo pum plentyn yn y tŷ, ma' ganddyn nhw parenting skills, ma' nhw'n delio pob dydd gyda'r plant eraill, ac mae 'na un plentyn gyda autism. Dyw pobol fel yna ddim eisiau parenting skills.

"Ma'r parenting skills angen dechrau efo rhywun sy'n helpu pob dydd gyda hwn. Dwi 'di bod ar parenting skills a 'di dysgu dim byd."

Disgrifiad,

Mae gan rieni y sgiliau sydd eu hangen, medd Edward Bateman

Yn y cyfamser, mae sawl cynllun ar waith i geisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r cyflwr.

Mae'r Cynghorydd Geraint Hopkins yn ddirprwy lefarydd ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"Mae lot wedi newid, mae lot o bobol yn meddwl yn wahanol, ond nid digon. Mae'n bwysig iawn i bob awdurdod, pob gwasanaeth yng Nghymru i gydnabod y sefyllfa i helpu pobol gydag awtistiaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geraint Hopkins, mae'n bwysig fod awdurdodau'n helpu pobl gydag awtistiaeth

"Mae rôl bwysig gyda ni fel awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth ond hefyd mae rôl gyda ni fel gwasanaeth i helpu pobol hefyd.

"Mae lot o hyfforddiant yn mynd ymlaen gyda staff mewn gwasanaethau cymdeithasol yn yr awdurdodau lleol, a hefyd mwy o gydweithio gyda'r byrddau iechyd a lot o agencies arall i helpu'r sefyllfa."