200 yn gorymdeithio yn erbyn cau cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Gorymdaith

Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn gorymdeithio i brotestio yn erbyn cynnig i gau cartref gofal yn y dref.

Roedd tua 200 o bobl yn rhan o'r digwyddiad fore Sadwrn yn lleisio eu gwrthwynebiad i'r penderfyniad.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar gau cartref gofal Bodlondeb ym Mhenparcau, ble byddai 33 o swyddi'n cael eu colli.

Ond mae undebau wedi dweud nad oes cynllun mewn lle ar gyfer gwasanaethau gofal pe bai'r cartref yn cau.

Gorymdaith

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y mater yn Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos nos Sul, ac mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 25 Medi.

Dywedodd y cyngor y byddai Bodlondeb angen buddsoddiad sylweddol er mwyn parhau ar agor, a'i fod yn gwneud colled o bron i £400,000 y flwyddyn ar hyn o bryd.

BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

13 o breswylwyr sydd yng nghartref Bodlondeb