'Effaith ofnadwy' colli dyfarnwyr yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Mae clybiau pêl-droed yn y canolbarth yn wynebu prinder dyfarnwyr oherwydd ymddygiad gwael chwaraewyr a chefnogwyr.
Yn ddiweddar mae pump o ddyfarnwyr Cymdeithas Bêl-droed y Canolbarth wedi gadael, gyda chwech arall yn "wirioneddol ystyried" rhoi'r gorau i'r gwaith.
Mae nifer o ddyfarnwyr yn ardaloedd Ceredigion a Powys wedi dweud bod camdriniaeth yn ystod gemau wedi achosi'r problemau.
Yn ôl swyddogion y Gymdeithas yn y canolbarth, mae hyn wedi arwain at brinder dyfarnwyr ar lawr gwlad.
Mae Aled Jones o Aberaeron yn ddyfarnwr gyda 12 mlynedd o brofiad. Dros y cyfnod, mae dweud iddo ddod yn groengaled i sylwadau sarhaus, er mae yn teimlo bod ymddygiad yn gwaethygu.
"Dwi'n gallu rhoi report i mewn am ymddygiad chwaraewyr, ond dyw pawb methu," meddai.
"Tra bues i'n dyfarnu gêm yn ddiweddar, fe aeth un bachgen draw at fy ngwraig a fy mhlentyn a gweiddi a rhegi arnyn nhw. Roedd fy merch naw mlwydd oed mewn dagrau. Mae hynny yn hollol annerbyniol."
Mae angen 84 o ddyfarnwyr er mwyn cynnal gemau pêl-droed ar draws y ddau awdurdod bob penwythnos. Oherwydd prinder, mae disgwyl bydd rhaid canslo gemau, a hynny ar ddechrau tymor.
Yn ôl ysgrifennydd dyfarnwyr Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru, Dylan Griffiths, ar ddechrau'r tymor pêl-droed "mae pum dyfarnwr wedi rhoi'r gorau i ddyfarnu yn barod a chwech arall ni'n gwybod amdanyn nhw'n ystyried rhoi'r gorau iddi hefyd".
"Mae'r sefyllfa yn warthus. Mae colli un dyfarnwr i'r ardal yma yn achosi effaith ofnadwy. Mae'n rhaid osgoi colli dyfarnwyr yn sgil camdriniaeth.
"Mae nifer y dyfarnwyr yn debygol o ostwng eto. Gallai pum tymor fynd rhagddo cyn bod y sefyllfa yn cael ei hadfer yn gyfan gwbl."
'Pryder'
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn bryderus bod canolbarth Cymru wedi colli pump o ddyfarnwyr ers dechrau'r tymor.
Dywedodd Llefarydd ar ran CBDC eu bod "yn gweithio'n galed i gynyddu niferoedd dyfarnwyr trwy broses recriwtio fodern, ond mae'r gymdeithas hefyd yn cydnabod yr angen i gadw dyfarnwyr presennol".
"Bu ymdrechion mawr dros y blynyddoedd diwethaf i wobrwyo clybiau sydd â'r cofnodion Chware Teg gorau, a hynny er mwyn lleihau unrhyw gam-drin ar y cae.
"Mae Rheolau Disgyblu CBDC hefyd yn glir am y ffordd orau o adrodd achosion o gam-drin gan gefnogwyr. Rydym yn annog pawb o fewn y teulu pêl-droed i barchu ysbryd y gêm a pharchu'r dyfarnwr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017