Ffrae am arian ardaloedd menter Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ebbw ValeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae £94m wedi ei fuddsoddi yn ardal fenter Glyn Ebwy

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i ffigyrau ddangos fod £221m o arian cyhoeddus wedi ei fuddsoddi mewn parthau menter ers 2012.

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, mae'n golygu fod y trethdalwyr yn talu £20,656 am bob swydd sydd wedi ei chreu.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Economi, Ken Stakes, mae'r Torïaid wedi dehongli'r ffigyrau mewn modd sinigaidd.

Dros gyfnod o bum mlynedd mae'r cynllun wedi creu tua 10,700 o swyddi.

'Gwastraff'

Dywedodd Mr Davies: "Mae'n bosib mai hwn yw'r gwastraff mwyaf o arian ers dechrau datganoli, gan gostio miliynau o bunnoedd - a bach iawn i ddangos am hynny.?

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Skates: "Mae cyfanswm y ffigyrau yn cynnwys buddsoddiadau mewn dwsinau o gynlluniau is-adeiladwaith yng Nghymru - fel ffordd ddeuol A465, ffordd gyswllt Llangefni, ffordd gyswllt Bae Caerdydd, creu ffordd ddeuol ar yr A40 ac ehangu rheilffordd Glyn Ebwy a gorsaf newydd.

"Mae'r cynlluniau wedi bod o fudd i fusnesau o fewn yr ardaloedd menter."

Mae Pwyllgor Economi'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn trafod y buddsoddiad.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2012-17 yn dangos :

  • £6.39m ar gyfer ardal Menter Môn, gyda 1,034 o swyddi yn cael eu creu eu diogelu, neu gynorthwyo

  • £13.8m ar Faes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, gyda 222.6 o swyddi yn cael eu creu eu diogelu, neu gynorthwyo

  • £61.9m ar ardal menter Canol Caerdydd gyda 1,854.9 o swyddi yn cael eu creu eu diogelu, neu gynorthwyo

  • £29m ar ardal Glannau Dyfrdwy, gyda 6,014 o swyddi yn cael eu creu eu diogelu, neu gynorthwyo

  • £94m ar ardal Glyn Ebwy, gyda 390 o swyddi yn cael eu creu eu diogelu, neu gynorthwyo

  • £9.3m ar ardal Dyfrffordd y Ddau Gledda - 1,113.5 o swyddi wedi creu, diogelu, neu gynorthwyo

Cafodd £3.7m ei wario ar ardal fenter Port Talbot 2016/17, gyda 57.5 o swyddi wedi creu, diogelu, neu gynorthwyo.

Tra bod £2.1 wedi ei wario ar ardal fenter Eryri rhwng 2014 a 2017 gyda 20 o swyddi wedi creu, diogelu, neu gynorthwyo.

Dywedodd llefarydd ar ran Ken Skates fod y ffigyrau wedi eu cyflwyno mewn modd "camarweiniol".

"Dylai'r Ceidwadwyr Cymreig groesawu'r ffaith fod y parthau Mentrau'n denu buddsoddiad preifat sylweddol ac wedi sicrhau 10,000 o swyddi ers 2012", ychwanegodd.