Dyn yn y ddalfa wedi gwrthdrawiad yn Nyffryn Ogwen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl gwadu cyhuddiad mewn llys ynadon o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Daw'r cyhuddiad yn erbyn Dean Martin Howard, 26 oed , yn dilyn digwyddiad yn Nyffryn Ogwen ddydd Sadwrn, 21 Ebrill.
Bryd hynny cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd - tri char a beic modur - ar yr A5 rhwng Bethesda a Chapel Curig.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol allai beryglu ei fywyd wedi i'w feic fod mewn gwrthdrawiad gyda char Ford Focus Mr Howard.
Y disgwyl yw mai yn Llys y Goron Caernarfon ar 21 Mai y bydd ymddangosiad llys nesaf Mr Howard - gyrrwr lorri a roddodd gyfeiriad yn Nulyn wrth ymddangos o flaen ynadon yn Llandudno.
Dywedodd Sarjant Jason Diamond o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd fod y llu yn awyddus i glywed gan dystion i'r digwyddiad, yn enwedig os oes gan unrhyw un luniau o gamera dash cam o'r digwyddiad.
Dylai pobl all fod o gymorth i'r digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod W051047.