Arddangosfa yn Aberystwyth i nodi 200fed rhifyn Y Wawr

  • Cyhoeddwyd
Y WawrFfynhonnell y llun, Merched Y Wawr

Mae arddangosfa newydd agor yn Aberystwyth i nodi cyhoeddi rhifyn 200 o Y Wawr - cylchgrawn Merched y Wawr.

Cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi yn 1968 dan olygyddiaeth Zonia Bowen - ysgrifennydd cyntaf y mudiad fu'n rhan amlwg o'i sefydlu yn 1967.

Mae'r arddangosfa i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan 8 Mai ac yn cynnwys pob un o rifynnau Y Wawr ynghyd â nifer o lyfrau lloffion y mae aelodau sawl mudiad wedi'u llunio i gofnodi pen-blwydd Merched y Wawr yn 50 oed.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr

Dywedodd cyfarwyddwr Merched y Wawr, Tegwen Morris mai un o brif gyfraniadau Y Wawr oedd "rhoi'r cyfle i ferched fod yn awduron".

"Yn y cyfnod cyn 1968 yn aml roedd merched yn gyndyn o ddefnyddio eu henwau eu hunain," meddai.

"Mae'r cylchgrawn hefyd wedi trafod nifer o feysydd yn gwbl agored - meysydd nad oedd pobl yn fodlon siarad amdanynt yn gyhoeddus.

"Roedd trafodaeth ar y bilsen, er enghraifft, i'w canfod yn nyddiau cynnar y cylchgrawn."

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Rhifyn cyntaf Y Wawr

Mae Mrs Morris hefyd yn credu bod Y Wawr wedi rhoi cyfle i gwmnïau yng Nghymru farchnata mewn ffordd wahanol.

"Roedd 'na gyfle i ambell gwmni dargedu merched yn benodol - dwi'n cofio un cwmni yswiriant yn cynnig telerau arbennig i lwyr ymwrthodwyr a merched," meddai.

Catrin Stevens, cyn-olygydd Y Wawr a chyn-lywydd Merched y Wawr, sydd wedi golygu y rhifyn arbennig i nodi'r 200 a hi hefyd a fu'n gyfrifol am olygu'r rhifyn arbennig i nodi pen-blwydd y mudiad yn 50.

Ychwanegodd Mrs Morris: "Bydd rhywbeth yn yr arddangosfa at ddant pawb gan bod aelodau o ganghennau o bob rhan o Gymru wedi cyfrannu."