Merched y Wawr yn 50: Blog Tegwen Morris

  • Cyhoeddwyd
Stondin Merched y Wawr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Stondin Merched y Wawr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967

Eleni mae Merched y Wawr yn dathlu hanner canrif ers sefydlu'r mudiad yn Y Parc ger Y Bala yn 1967.

Mae'n mynd i fod flwyddyn brysur felly i'w cyfarwyddwr cenedlaethol Tegwen Morris, ond cyn dechrau ar yr anturiaethau roedd ganddi eiliad i flogio ar ran Cymru Fyw!

Ionawr 2017

Blwyddyn Newydd Dda ac ma' 'leni yn mynd i fod yn flwyddyn a hanner i fi ac i'r 6,400 sy'n aelodau o Ferched y Wawr. Ry'n ni'n dathlu'r aur - ond gai bwysleisio bod 'da fi'n bersonol ambell flwyddyn cyn cyrraedd y garreg filltir honno!

Wel allai'm credu bod y flwyddyn fawr wedi cyrraedd - hanner can mlynedd ers i'r criw yn Y Parc adael Sefydliad y Merched a phenderfynu dechrau cymdeithas a fyddai'n 'rhoi lle urddasol i'r Gymraeg yn ei gweithgareddau.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr

Wel mae'n rhaid dathlu mewn steil 'leni - a'r cam cyntaf yw rhoi bag i bob aelod. Yn y dyddiau nesaf mi fyddant yn cael eu cludo o Aberystwyth i bob twll a chornel yng Nghymru.

Mi fydd pob aelod hefyd yn cael cerdyn aelodaeth am oes - cerdyn aur wrth gwrs a fydd cyn hir yn cynnig gostyngiad i aelodau mewn amrywiol siopau.

Dyma hefyd fis cwrs crefft y gogledd - mae'r cyrsiau yn digwydd bob blwyddyn ond fe fydd pwyslais mawr eleni ar frodio mewn aur.

Chwefror/Mawrth

Bydd rhaid i fi fynd i siopa - dyma gyfnod y ciniawau. Mae ambell un wedi bod yn barod i ddathlu'r aur. Fe fydd pob rhanbarth yn cynnal rhyw ddigwyddiad i ddathlu'r pen-blwydd.

Mae'n wardrob i yn llawn o bethau coch gan bo fi wedi bod gydol y ddegawd yn dathlu pen-blwydd rhuddem y mudiad. Ond mi ydw i bellach ar y 'lwcowt' am ddillad aur. I'r rhai ohonoch chi sy'n fy 'nabod chi'n gwybod y byddai wedi bod mewn pob siop elusen yng Nghymru!

Ffynhonnell y llun, Elin Mabbutt
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yn rhaid i Tegwen Morris gael mwy o ganhwyllau ar gyfer dathlu'r aur!

Wi'n gobeithio felly y byddai wedi dod o hyd i ddillad addas ar gyfer cinio llywydd y de yn Nhyddewi a chinio llywydd y gogledd yng Nghorwen - ond fe fydd rhaid cael mwy nag un wisg!

Ym mis Mawrth hefyd mae cwrs crefft y de - fe fyddan nhw'n paentio, argraffu, gosod blodau - a pha liw fydd yn amlwg? Wel aur wrth gwrs!

Ebrill/Mai

Mis Mai fydd y mwyaf prysur o bell ffordd ond cyn mynd i sôn wrthych am y gweithgareddau hynny hoffwn ddweud bod nwyddau o bob math wedi eu cynhyrchu ar gyfer y flwyddyn - maent yn amrywio o ran pris o £1.50 i £1,595.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr

Yn eu plith fe fydd mwg, plat, cadwen, ffedog, jwg a broets cwbl arbennig a fydd yn arddangos pump braich i gynrychioli pum degawd. Mae'r nwyddau oll wedi'u cynllunio gan wneuthurwyr o Gymru.

A dyma ni'n dod at ddechrau mis Mai. Gŵyl y pum rhanbarth fydd gynta' ym Mangor ac ar 20 Mai fe fydd y cyfarfod blynyddol ym Machynlleth. Fe fydd y cyfarfod yn gyfle i lansio'r paneli celf ac i arddangos amrywiol grefftau eraill y merched.

Ddiwedd y mis fe fydd hi'n Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac edrych ymlaen fel arfer i fynd am wythnos (a mwy!) ond eleni fe fydd hi'n fwy arbennig nag arfer. Bydd llyfryn arbennig ar hanes Merched y Wawr yn cael ei lansio i blant.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n mynd i fod yn flwyddyn brysur!

Bydd cyfle hefyd i glywed y diweddaraf am y prosiect treftadaeth. Ddiwedd llynedd fe gawsom arian gan gronfa Treftadaeth y Loteri i ariannu prosiect i hel atgofion Merched y Wawr.

Mae'r prosiect ar y cyd â Casgliad y Werin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Radio Cymru.

Felly mae Alaw Roberts a Branwen Davies wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn mynd ar draws Cymru yn recordio a chofnodi merched yn sôn am eu profiadau a'u hatgofion. Mae nhw hefyd wedi bod yn sganio lluniau a byddant wrthi tan ddiwedd mis Awst. Wi'n edrych mla'n yn fawr i weld y cynnyrch.

Mehefin

Dwi ddim wedi dweud wrth y gŵr a'r plant 'to ond wi ddim yn meddwl y bydd lot o amser i fynd ar wyliau 'leni!

Mis 'ma o'r 17-25 fe fydd 'na wythnos o ddathliadau yn Ysgol Y Parc - digwyddiad a fydd yn codi ymwybyddiaeth y lle arbennig yma yn hanes y Mudiad.

Mae plac i nodi dechrau MyW yn Y Parc eisoes ond eleni fe fydd pobol yr ardal yn dod at ei gilydd i greu murlun arbennig. Fe fydd yr wythnos yn llawn o wibdeithiau, cyfleon i hel atgofion, dangos ffilmiau, arddangos creiriau - dwi'n edrych mla'n yn fawr.

Gorffennaf

Disgrifiad o’r llun,

'Dwi'n chwilio am wisg debyg i hyn - Rapsgalwen nid Tegwen fyddai yn y 'Steddfod!'

Nodyn i fi'n hun - rhaid i fi ddod o hyd i wisg arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ond efallai nid gwisg gyffredin. Meddwl o'n ni am gael gwisg tebyg i Rapsgaliwn i fi gael bod yn Rapsgalwen - be chi'n feddwl?

Mis arall hynod o brysur wrth i ni fynd i'r Sioe Amaethyddol - fe fydd ein prif cystadleuaeth ar y thema Dathlu'r Aur (wrth gwrs!). Nifer o gystadlaethau eraill gan gynnwys gosod blodau ar y thema 'mwyngloddiau aur Dolau Cothi'.

A dyna ddod a dwy elfen ohonof at ei gilydd - fy ngwaith gyda Merched y Wawr a fy magwraeth yn Ffald-y-brenin ger Dolau Cothi yn Sir Gaerfyrddin.

Awst

Wel cyn troi rownd fe fydd hi'n amser pacio'r bagiau i fynd i Ynys Môn.

Disgrifiad o’r llun,

Amgylchynu y pafiliwn pinc â chasgliad bras Merched y Wawr

Wi wastad wedi joio'r Steddfod - yn y gorffennol ry'n wedi cael lot o hwyl yn casglu sgidie a bagiau, hongian 'bras' o amgylch y pafiliwn a chasglu ategolion at y galon.

Mae hon yn mynd i fod yn Brifwyl arbennig i Ferched y Wawr - am y tro cyntaf fe fydd pob rhanbarth yn dod at ei gilydd ar y llwyfan i roi cyflwyniad.

Ond yn fwy na dim ar y dydd Llun mae'r goron eleni yn rhoddedig gan Ferched y Wawr ac ers tro rwy' wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ar ei chynllun. Mae'n cael ei gwneud gan John Price - gŵr Mary Price, un o'n cyn-lywyddion.

Fe fydd y digwyddiad yn Y Babell Lên ar y 9fed yn gyfle pellach i gyn-lywyddion rannu eu hatgofion ac i ni glywed mwy am drysorau'r prosiect treftadaeth.

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Pwyslais mawr ar ddysgwyr ym mlwyddyn dathlu'r aur

Fel roeddwn yn dweud wrthoch ynghynt mae prosiect y loteri a sawl cinio yn cyd-redeg â'n digwyddiadau penodol. Hoffwn ddweud hefyd ein bod ni eleni yn rhoi sylw arbennig i'r dysgwyr - mae nifer o'n haelodau bellach yn ddsygwyr ac ry'n yn falch o hynny.

O'r 19 Awst tan ddiwedd y mis arddangosfa arbennig mewn canolfan yn Y Bala.

Medi

Wel mae pawb siŵr o fod wedi clywed am y penwythnos preswyl - penwythnosau tawel wrth gwrs a phawb yn eu gwely'n gynnar! Wel fe fydd y penwythnos yn digwydd eleni yn Aberystwyth ac fe allai sicrhau chi y bydd dathliadau'r aur yn fwy prysur na dathliadau'r glas!

Llwyth o ddigwyddiadau fel arfer - ond efallai mwy eleni gan bo ni'n dathlu'r hanner cant!

Hydref/Tachwedd

Paratoi erbyn y cwis blynyddol a'r Sioe Aeaf fydd y prif weithgareddau. Am y tro cyntaf staff Merched y Wawr fydd yn paratoi cwestiynau'r cwis - cwestiynau am Gymru, llenyddiaeth Cymru, coginio - dim byd rhy anodd dwi'n siŵr!!!

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith celf a gafodd wobr yn Ffair Aeaf 2016

Hyn i gyd cyn mynd i'r Ffair Aeaf. Yn y ffair eleni byddwn yn cael clywed pwy sydd wedi ennill y gystadleuaeth llyfr lloffion - fe gafodd y gystadleuaeth honno eu lansio fis Medi y llynedd.

Anodd meddwl yn bellach na hyn ond wrth i'r Nadolig nesáu edrych mlaen i gyd-wledda ac i gyd-ddathlu gobeithio un o'r blynyddoedd pwysicaf yn hanes Merched y Wawr.