Dyn yn y llys wedi lladrad

  • Cyhoeddwyd
garejFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y lladrad yn y garej ar Ffordd Y Rhyl, Dinbych

Fe fydd dyn 30 o Ddinbych yn ymddangos mewn llys ynadon fore Mawrth i wynebu cyhuddiadau o ddwyn, ymosod ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Mae'n dilyn digwyddiad mewn garej yn Ninbych ddydd Sul, 29 Ebrill.

Am 21:24 fe gafodd yr heddlu eu galw i ladrad wedi i ddyn fynd i'r siop yn y garej a mynnu arian. Dihangodd y dyn gydag arian o'r til.

Cafodd Robert Shane Hughes ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad, a bydd yn mynd gerbron ynadon Caernarfon yn ddiweddarach.

Dywedodd y Ditectif Brif-Arolygydd Neil Harrison o Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig o gas pan fu ymosodiad ar ferch ifanc oedd yn gweithio yn y siop.

"Byddwn yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a welodd rhywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal o flaen llaw i gysylltu â'r heddlu cyn gynted â phosib."

Dylai pobl ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod W055084, neu Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.