Datgladdu gweddillion mewn ymgais i adnabod corff
- Cyhoeddwyd
Bydd corff yn cael ei ddatgladdu ym Mhorthaethwy yr wythnos nesaf fel rhan o ymchwiliad i adnabod gweddillion gafodd eu canfod ar draeth ar Ynys Môn yn yr 1980au.
Fe gafodd y corff fydd yn cael ei ddatgladdu ei ganfod gan aelod o RAF Fali ar draeth Rhosneigr ym mis Tachwedd 1985.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi methu â darganfod pwy oedd y dyn ar y pryd, ac nad oedd y farwolaeth yn cael ei hystyried yn un amheus.
Ond mae'r llu nawr yn credu mai corff dyn 63 oed o Iwerddon oedd yn byw yn Llundain ar y pryd, Joseph Brendon Dowley, sydd wedi'i gladdu ym Mynwent Porthaethwy.
Mae'r datgladdiad yn rhan o Ymgyrch Orchid, ble mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio'r dechnoleg DNA ddiweddaraf i geisio adnabod gweddillion dynol gafodd eu darganfod yn yr ardal dros y 50 mlynedd diwethaf.
'Aduno Mr Dowley â'i deulu'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon, sy'n arwain yr ymchwiliad: "O ganlyniad i'n hymchwiliadau a gyda chymorth Swyddfa Unigolion Coll a'r Gardai yn Iwerddon, credwn yn awr mai gweddillion corff Joseph Brendon Dowley, Gwyddel 63 oed ydyw, a oedd ar y pryd yn byw yn Llundain.
"Bu Mr Dowley yn ymweld â theulu yn Iwerddon yn 1985 ac fe'i welwyd am y tro olaf pan aethpwyd ag ef mewn car at borthladd y fferi gan aelod o'i deulu.
"Pwrpas y datgladdiad yw cael proffil DNA i gymharu â DNA aelodau o deulu Mr Dowley yn Iwerddon sy'n ymwybodol o'r datblygiadau.
"Os cadarnheir gan Grwner Ei Mawrhydi mai Mr Dowley ydyw yna'r gobaith yw aduno Mr Dowley â'i deulu cyn gynted â phosib er mwyn iddynt gael cynnal angladd llawn."
Bydd Mynwent Porthaethwy ar gau ddydd Mawrth, 19 Mehefin, wrth i'r gweddillion gael eu datgladdu.