Balchder Côr Meibion Hoyw De Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Côr Meibion Hoyw De Cymru, dolen allanol yn 10 oed eleni.
Syniad Andy Bulleyment, yr arweinydd, oedd sefydlu'r côr i ddechrau "oherwydd fod gan bob dinas arall gôr hoyw!"
Mae wedi tyfu o rhyw 15 aelod yn wreiddiol i 40 aelod bellach ac yn mynd o nerth i nerth, a bob amser yn croesawu aelodau newydd.
Er mai yng Nghaerdydd mae'r côr yn ymarfer, mae aelodau yn teithio mor bell ag Abertawe a Chas-gwent i ddod i'r ymarferion.
Bydd y côr yn cymryd rhan ym mhenwythnos Pride Cymru, dolen allanol yng Nghaerdydd dros benwythnos gŵyl y banc ac yn perfformio ar y prif lwyfan ar y prynhawn Sadwrn.
Fis Awst nesa', bydd gŵyl gorawl LHDT Hand in Hand yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a hynny am y tro cyntaf. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, Canolfan y Mileniwm, y Senedd a nifer o leoliadau eraill ar draws Caerdydd, felly mae yna lawer o waith paratoi o'u blaenau!