Ceisiadau fisa i actorion Bollywood yn cael eu gwrthod
- Cyhoeddwyd
Mae bechgyn o India wedi cael trafferthion wrth geisio am fisa er mwyn gallu ymddangos mewn ffilm Bollywood sy'n ffilmio yng Nghymru.
Y bwriad oedd dechrau ffilmio 'Jungle Cry' yn ne-orllewin Cymru ddiwedd mis Tachwedd.
Mae'r ffilm yn adrodd stori tîm rygbi ieuenctid o India wnaeth ennill cystadleuaeth yn y DU yn 2007.
Daeth i'r amlwg fod 14 o chwaraewyr wedi cael eu rhwystro rhag teithio gan Uwch Gomisiwn y DU yn Calcutta.
Mae'r swyddfa gartref wedi derbyn cais i ymateb.
Mae'r broses ffilmio eisoes wedi dechrau yn India a'r bwriad oedd ail-ddechrau yn Llanelli.
Roedd disgwyl i'r ffilm, sydd â chyllideb o filiynau o bunnau, ffilmio yng Nghymru tan y Nadolig.
Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones y byddai'n ysgrifennu at yr awdurdodau perthnasol er mwyn ceisio datrys y mater.