Senedd Ieuenctid yn 'allweddol' i hybu diddordeb gwleidyddol

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Bydd y cyfnod pleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru yn dod i ben ddydd Llun.

Dyma'r trydydd troi i'r broses hon ddigwydd, lle caiff 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru eu hethol i gynrychioli'r to iau yn y Senedd.

Mae un aelod a gafodd ei hethol ar gyfer y Senedd Ieuenctid ddiwethaf wedi dweud bod y sefydliad yn "allweddol" er mwyn annog pobl ifanc i fentro i'r byd gwleidyddol.

Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar yn dangos fod pobl ifanc yn llai tebygol o ymddiddori a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth.

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd yn credu fod y Senedd Ieuenctid yn gyfle i hybu a chael trafodaeth ehangach am wleidyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Betsan Angell yn rhan o'r Senedd Ieuenctid gyntaf nôl yn 2018

Cafodd Betsan Angell ei hethol fel aelod o'r Senedd Ieuenctid yn 2018, y tro cyntaf i'r Senedd Ieuenctid gwrdd.

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd fod y sefydliad yn "allweddol i hybu diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth".

"Wrth i bobl ymgysylltu â'r Senedd Ieuenctid mi fyddan nhw efo mwy o ddiddordeb wrth iddyn nhw fynd yn hŷn," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud fod y profiad wedi "agor drysau" iddi a'i bod wedi cael y cyfle i siarad yn y siambr a chreu cysylltiadau.

'Hanfodol' cael llais i bobl ifanc

Disgrifiad o’r llun,

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg wedi pleidleisio yn y Senedd Ieuenctid

"Yn y bôn, mae’r Senedd Ieuenctid yn rhoi llais i bobl ifanc, ac mae hynny yn hanfodol yn ystod y cyfnod yma dwi'n meddwl, rwan mwy nag erioed i leisio eu barn.

"Dwi'n meddwl fod o'n rhoi hwb ac yn gyfle i bobl ifanc sydd heb lais hefyd.

"Mae llawer o benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc - mae'n bwysig iawn fod pobl yn cymryd rhan os oes ganddyn nhw ddiddordeb."

Mae Betsan bellach yn dilyn gyrfa ym myd addysg ac mae'n dweud mai ei phrofiad fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a wnaeth ei hannog i wneud hynny.

Pobl ifanc yn llai tebygol o bleidleisio

Mae adroddiad a gafodd ei baratoi gan y Brifysgol Agored yn dangos fod pobl ifanc bellach yn fwy tebygol o gwestiynu hanfodion democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol ffurfiol fel pleidleisio.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi fod angen gwell addysg sylfaenol ynghylch gwleidyddiaeth ar bobl ifanc.

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Garth Olwg yn credu fod y Senedd Ieuenctid yn gyfle i hybu a chael trafodaeth ehangach ar faterion gwleidyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion (chwith) ac Awen (dde) eisoes wedi pleidleisio

Dywedodd Awen, disgybl ym Mlwyddyn 11, ei bod yn "bwysig fod pobl ifanc yn cael llais ac yn cael gwneud dewisiadau".

Dywedodd y byddai'n hoffi gweld materion megis yr iaith Gymraeg, trafnidiaeth ac iechyd meddwl yn cael sylw yn y Senedd Ieuenctid.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "beth pwysig i ddysgu am wleidyddiaeth".

'Anhygoel clywed ein llais ni'

Nid oedd Ffion, disgybl ym Mlwyddyn 10, wedi clywed am Senedd Ieuenctid Cymru tan yn ddiweddar ond mae'n credu ei fod yn "beth anhygoel i gael ein llais ni wedi'i glywed".

Aeth ymlaen i sôn bod gan yr ysgol ei Senedd ei hun, a bod plethu trafodaethau a llais pobl ifanc yn bwysig.

"Dwi’n meddwl fod llawer o gyfle i bobl ifanc i roi eu llais, yn enwedig yn yr ysgol. Ma' gyda ni fforymau a senedd ysgol ond bydd e’n dda os bydd mwy o bethau fel y Senedd Ieuenctid."

Dywedodd fod ganddi "ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae cofrestru i'r Senedd Ieuenctid wedi fy helpu i ddewis gwleidyddiaeth fel pwnc dan sylw ar gyfer fy mhrosiect llafar unigol yn yr ysgol".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ioan (chwith) a Bethan (dde) o'r farn fod Senedd Ieuenctid yn bwysig er mwyn i bobl ifanc allu rhannu eu llais

Er mai ym Mlwyddyn 7 mae Ioan, dywedodd fod gallu rhannu ei lais yn bwysig "oherwydd mai pobl ifanc sydd ar y Senedd Ieuenctid, ac maen nhw'n gallu codi pethau dydi oedolion methu gweld".

Dywedodd Bethan, disgybl ym Mlwyddyn 9, fod tri disgybl o'r ysgol yn sefyll yn yr etholiad a'i bod yn dda gweld "beth maen nhw eisiau gwneud i helpu Pontypridd a'r Senedd".

Er nad yw'n siŵr a yw am ddilyn gyrfa yn y byd gwleidyddol ar hyn o bryd, dywedodd ei fod yn "agor drws" ac yn rhywbeth y mae bellach yn ei ystyried.

Cafodd Senedd Ieuenctid Cymru ei sefydlu yn 2018 wedi i Aelodau o’r Senedd bleidleisio o blaid sefydlu corff o’r fath yn 2016.

Fe wnaeth y Senedd ymgynghori â thros 5,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i’w helpu i benderfynu ar nod, aelodaeth a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.

Cafodd ail Senedd Ieuenctid Cymru ei hethol yn 2021 tra bydd aelodau’r drydedd Senedd Ieuenctid yn cychwyn ar eu dyletswyddau ddiwedd mis Ionawr 2025.

Pynciau cysylltiedig