Lyn Ebenezer: Fy noson gyda chanwr y Pogues

  • Cyhoeddwyd

Ar raglen Aled Hughes Dydd Llun, Rhagfyr 17, roedd Lyn Ebenezer yn adrodd ei hanes am noson dreuliodd gyda chanwr y Pogues, y band sydd yn gyfrifol am y clasur Nadolig Fairytale of New York.

"Fy claim to fame, ganais i Fairytale of New York gyda Shane MacGowan rhyw noson" meddai Lyn.

"Y Dubliners sydd ar fai, ro'n i'n mynd i weld y Dubliners pob tro o'n nhw'n canu yng Nghaerdydd neu Aberystwyth neu 'ta ble. A'r flwyddyn 'ma, mae'n rhaid fod hi dros 20 mlynedd nôl nawr, roedd Shane MacGowan ar daith gyda nhw.

"Yng Nghaerdydd o'n nhw'n perfformio ac Emyr Huws Jones (Ems) a minnau ddim yn siŵr a fydden ni'n mynd ar y dechrau, achos o'n ni ddim yn ffans mawr o Shane MacGowan. O'n ni'n meddwl fod e'n rhyw foi oedd jest yn lico dangos ei hun. Ond mynd wnaethon ni.

"Ar ôl y gyngerdd fe benderfynais i, yn ôl fy arfer, i fynd tu ôl y llwyfan i gwrdd â'r Dubliners, a phwy oedd yn eistedd 'na ond Shane ar ben ei hunan, a dyma fi'n meddwl, jiw, gwell i mi fynd i gael gair ag e."

Roedd Lyn yn pendroni a ddylai fynd draw i siarad efo Shane, a sut y byddai'n dechrau sgwrs.

"Felly dyma fi'n penderfynu eistedd wrth ei ymyl e a chanu 'You could have been someone...!' gan ddisgwyl pelten. Ond dyma fe'n rhoi ei fraich o gwmpas fy ngwâr i a chanu 'Well so could anyone...You took my dreams from me, when I first found you ....' A 'mlaen â ni i ganu gyda'n gilydd.

Cafodd y gan Nadoligaidd enwog ei chyfansoddi gan Jem Finer a Shane MacGowan, a'i rhyddhau yn wreiddiol yn 1987 ac ymddangos ar yr albwm enwog o 1988, 'If I Should Fall from Grace with God'. Dywedodd Lyn ei fod wedi gweld ochr wahanol i Shane McGowan ar y noson honno yng Nghaerdydd.

"Mae'n rhaid i mi ddweud, dwi erioed wedi bod mwy anghywir am gymeriad person. Oedd e gwbl gwbl wahanol i'r hyn o'n ni'n meddwl oedd e. Roedd e'n berson tawel, swil â dweud y gwir, gŵr annwyl iawn ac eisiau gwybod pethau amdanaf fi, yn hytrach na'r ffordd arall rownd.

Disgrifiad o’r llun,

Lyn Ebenezer: "Dwi dal ddim yn gallu cofio popeth am y noson!"

"Aethon ni ar y bws i fynd i'r gwesty 'ma yn Coryton, Caerdydd, lle ro'n nhw'n aros, ac Ems yn eistedd gyda fi, a dyma fi'n gweud wrth Shane, 'This is Ems, my friend.' a dyma fe'n dweud 'Hi Ems, I'm Shane...'

"A gaethon ni lot o hwyl ar ôl 'ny, ac yn wir ers hynny, o ddod i nabod e, mae e'n dipyn o arwr i mi ac yn fardd da iawn, ond yn dipyn o eccentric.

'Actio ar y llwyfan'

"Roedd e'n actio ar y llwyfan fel bod e'n feddw gaib, ond pan wnes i gwrdd ag e yn syth ar ôl y sioe, roedd yn hollol sobor.

"Ond pan gyrhaeddon ni'r gwesty, dyma fe'n archebu peint i yfed... sef chwarter o fodca, chwarter o jin, chwarter o tequila a chwarter o rym a rhyw chwarter modfedd ar y top ar gyfer bach o pineapple juice.

"Dyma fi'n gofyn iddo, 'Can I have a sip?' ac roedd e'n ffein ofnadwy, 'Oh Shane, it's lovely...' wedes i, 'That's why I blinkin drink it man,' atebodd e nôl. Fi'n cofio es i o 'na am hanner awr wedi pedwar, ac o'n ni fod dal y trên am hanner awr wedi saith i fynd i Lundain. Ond dwi ddim yn gallu cofio popeth am y noson...!"

Disgrifiad o’r llun,

Shane MacGowan gyda'r diweddar Kirsty MacColl yn dathlu llwyddiant y gân 'Fairytale of New York'