'Dylai Tyddewi fod wedi'i henwi'n ddinas yn 1992'
- Cyhoeddwyd
Dylai Tyddewi fod wedi derbyn statws dinas yn 1992 i nodi 40 mlynedd ers coroni'r Frenhines, yn ôl dogfennau newydd sydd wedi'u cyhoeddi.
Mewn llythyr yn 1992, fe ddywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Hunt, y dylai Tyddewi gael ei chydnabod yn swyddogol fel dinas, gan roi iddi ei "theitl iawn".
Fe benderfynodd y Frenhines, ynghyd â Llywodraeth y DU, i roi'r teitl dinas i Sunderland.
Cafodd Tyddewi ei enwi'n ddinas yn 1994 am ei rôl mewn treftadaeth Gristnogol.
Fel rhan o ddathliadau 40 mlynedd ers coroni'r Frenhines, fe benderfynwyd mai un tref yng Nghymru neu Loegr fyddai'n derbyn statws dinas.
Wrth ysgrifennu at Kenneth Baker, yr Ysgrifennydd Cartref, ym mis Ionawr 1992, dywedodd Mr Hunt y dylid gwneud "achos arbennig" ar gyfer tref gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro.
Dywedodd Mr Hunt: "Yn achos Tyddewi, credaf fod cefnogaeth gref iawn yng Nghymru am gydnabod yn ffurfiol yr hyn sydd wedi ei ystyried yn y meddwl cyhoeddus fel teitl cywir am lawer o genedlaethau.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, ac mewn mannau eraill ym Mhrydain, eisoes yn ystyried Tyddewi fel dinas yn rhinwedd ei gadeirlan."
Ychwanegodd: "Bydd llawer yn ei chael hi'n anodd deall y rhesymau pam y dylid gwrthod ei apêl."
Ond fe gafodd yr apêl ei wrthod a rhoddwyd statws dinas i Sunderland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017