Siopau Treffynnon yn galw am ailagor stryd fawr i geir

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr Treffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Ers 1992, mae Heol Fawr Treffynnon wedi bod ar gau i draffig am y rhan fwyaf o'r dydd

Bydd busnesau yn Nhreffynnon yn diflannu "o fewn wythnosau" os nad yw'r stryd fawr yn cael ei hailagor i draffig, yn ôl grŵp busnes.

Wedi degawdau o fod ar gau i draffig, fe agorwyd Heol Fawr i geir am gyfnod prawf o chwe mis yn 2018.

Ond fe ddychwelodd y gwaharddiad ym mis Ionawr, gyda Chyngor Sir y Fflint yn dweud nad oes ganddyn nhw'r £800,000 sydd ei angen i ailagor y ffordd yn barhaol.

Yn ôl Grŵp Busnes Treffynnon, mae perygl i'r dref "golli hanner dwsin o fusnesau o fewn pedair wythnos" os nad yw hyn yn newid.

'46% yn llai'

Cadeirydd y grŵp ydy Russ Warburton, sy'n rhedeg siop nwyddau tŷ. Mae'n dweud bod ei drosiant "46% yn llai" ers i'r gwaharddiad ddychwelyd.

"Mae busnesau wedi bod yn dweud wrtha' i fod pethau'n wael arnyn nhw," meddai.

"Mae angen i ni roi pwysau ar y cyngor a Llywodraeth Cymru i sortio'r mater yn fuan iawn, achos o fewn pedair wythnos fe fyddan ni'n colli hanner dwsin o fusnesau, dwi'n meddwl - gan gynnwys fy musnes i, fel mae hi ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y siopwr Russ Warburton, mae Treffynnon "fel tref ysbrydion ar hyn o bryd"

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ailagor y ffordd yn barhaol. Ond maen nhw'n dweud nad oes cyllid i addasu'r ffordd, sydd wedi bod ar gau i draffig am y rhan fwyaf o'r dydd ers 1992.

"Rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, gan eu cefnogi drwy osod gorchymyn traffig dros dro fel rhan o dreial, oedd yn llwyddiannus," meddai Carolyn Thomas, aelod o gabinet y sir.

"Mae'r busnesau nawr yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am gyllid. Os gawn ni lythyr ganddyn nhw i ddweud eu bod yn cefnogi ariannu ailagor y ffordd yn barhaol mewn egwyddor, yna fe osodwn ni orchymyn traffig dros dro yn y cyfamser."

'Teimlo fel piazza'

Mae'r cyn-gynghorydd sir Gareth Roberts yn gwrthwynebu newidiadau i'r Heol Fawr.

"Mae gen ti rhyw fath o piazza yma, sy'n troi'r stryd yn ganolfan gymdeithasol," meddai.

"Be' gei di ydy pobl yn defnyddio'r stryd fel maes parcio. Pam goblyn wyt ti eisiau troi'r stryd fawr yn faes parcio?"

Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd "cefnogaeth bosib i raglen o waith" ei drafod mewn cyfarfod rhwng eu swyddogion nhw a'r cyngor sir yn ddiweddar.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r awdurdod lleol wedi datblygu cynigion fydd nawr yn cael eu hystyried gan y Bartneriaeth Ranbarthol, sy'n goruchwylio buddsoddiadau adfywio ar gyfer gogledd Cymru."