Ymwelwyr i dalu treth ar dwristiaeth?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd rhaid i ymwelwyr dalu treth ar dwristiaeth wrth aros dros nos yng Nghymru o dan gynlluniau a fydd yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.
Mae Llywodraeth Cymru am roi’r pŵer i gynghorau godi “tâl ychwanegol bach” ar filiau llety.
Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y swm arfaethedig a godir o dan yr ardoll ymwelwyr, yn cael eu datgelu pan fydd deddf yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun.
Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r syniad gan ddweud y gallai atal ymwelwyr rhag dod i Gymru.
Mae Aron Gethin, rheolwr gwesty’r Heights yn Llanberis yn poeni am sut fuasai'r dreth ymwelwyr yn effeithio ar fusnes, petai'n dod i rym.
"Ma pobl yn dod yma achos ma'n rhad, ond fydd y pris yn codi. Ella fydd llai o bobl yn dod yma.
"Fydd hwn yn gost ychwanegol ar ben bob dim arall dan ni'n gorfod 'neud, a pris cwrw a bob dim yn codi."
Doedd o ddim yn meddwl fod angen y dreth chwaith.
"Na, mae pawb angen y tourists yma, dwi ddim yn gweld y tax yn beneficial.
"Ma' pobl am ddeud na, den ni ddim am ddod yma full stop, ac yn mynd i'r llefydd lle does 'na ddim tourist tax.
"Yn lle da ni wan, 'se ni ddim yn gallu survivo hebddo fo. Heb yr ymwelwyr, fydd 'na ddim arian yn dod mewn a fydd na ddim swyddi yn yr ardal.
"Fyddai'n poeni am yr effaith fydd y tourist tax yn cael ar y busnes."
Perchennog arall ydy Abigail Phoenix, yng Nghaffi’r Frân Las ar Stryd Fawr Llanberis, ond roedd hi'n cytuno gyda'r syniad o gael y dreth.
"Mae mor brysur yn ystod tymor yr haf gyda twristiaid sy'n dod i'r ardal
"Swn i'n deud ma'n syniad da i godi mwy o bres i'r ardal achos mae 'na lot o bobl yn dod aton ni am wasanaethau a pethau fel toilets, a pethau fel hyn - ond rydyn ni ddim ond yn trio rhedeg busnes.
"Ar ol yr haf mae'r llyn yn fudr a sbwriel o gwmpas y lle so 'swn i'n deud ma'n syniad really da."
Doedd Abigail ddim yn meddwl y byddai'r twristiaid yn stopio dod oherwydd y dreth.
"Wel os ma rhywun isho dod i'r ardal ac maen nhw'n hoffi byd natur a pethau - mae 'na lot o bobl dal eisiau dod. Os ydach chi'n teimlo'n garedig ac yn joio yr ardal rydych chi'n hapus talu cost bach i ddod i'r ardal."
'Amgylchiadau lleol'
Mae gweinidogion wedi dweud y bydd yr ardoll yn codi arian i'w wario ar gefnogi'r diwydiant twristiaeth mewn mannau sy'n denu llawer o ymwelwyr.
Fe fydd cynghorau’n penderfynu a ydyn nhw am gyflwyno’r dreth yn eu hardaloedd “ar sail amgylchiadau lleol", medd y llywodraeth.
Bydd y Bil Llety Ymwelwyr hefyd yn cynnwys cynllun cofrestru ar gyfer darparwyr llety.
Cafodd y mesur ei gynnig fel rhan o gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2021.
Bydd yn rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd ac fe allai gymryd rhai blynyddoedd cyn i gynghorau allu cyflwyno treth.
Disgwylir i ddeddfwriaeth ar wahân greu cynllun trwyddedu ar gyfer pob darparwr llety, sydd i fod i wneud yn siŵr eu bod i gyd yn dilyn yr un rheolau a safonau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023