Llofruddiaeth Aamir Siddiqi: Apêl o'r newydd am ddyn ar ffo

  • Cyhoeddwyd
Mohammed Ali EgeFfynhonnell y llun, Interpol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod Mr Ege wedi newid ei ymddangosiad ac wedi defnyddio dogfennau ffug

Mae Heddlu De Cymru wedi lansio apêl o'r newydd er mwyn ceisio darganfod dyn o Gaerdydd maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â llofruddiaeth yn 2010.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed, ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref yn Y Rhath, Caerdydd ar 11 Ebrill 2010.

Roedd y ddau ddyn wnaeth ei ladd, Ben Hope a Jason Richards, wedi mynd i'r tŷ anghywir wrth chwilio am rywun arall.

Yn 2011 cafodd Mohammed Ali Ege, 41, ei arestio yn India mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Ond ym mis Ebrill 2017 fe lwyddodd Mr Ege i ddianc rhag yr awdurdodau ac mae'r heddlu wedi bod yn chwilio amdano ers hynny.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi'n bosib fod Mr Ege bellach yn derbyn cefnogaeth ariannol o Gymru.

£1,000 i lofruddio

Roedd Hope a Richards wedi derbyn £1,000 yr un er mwyn llofruddio dyn canol oed oedd mewn dyled i ddyn arall.

Aeth y ddau i'r tŷ anghywir a cafodd Aamir ei lofruddio ar garreg drws ei gartref.

Roedd tad Aamir, Sheikh Iqbal Ahmad, a'i fam, Parveen Ahmad, wedi ceisio atal yr ymosodiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mohammed Ali Ege ddianc rhag yr awdurdodau yn India dwy flynedd yn ôl

Mae swyddogion eisiau darganfod Mr Ege a'i holi mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Giess o Heddlu'r De bod yr ymchwiliad hyd yn hyn yn dangos bod Mr Ege wedi teithio.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod ei fod wedi newid ei ymddangosiad a bod ganddo fynediad at ddogfennau adnabod fyddai'n ei alluogi i deithio..."

Ychwanegodd bod dogfennau ffug gafodd eu darganfod yn India o safon uchel ac yn debygol o gostio swm sylweddol o arian, gan "awgrymu ei fod yn cael ei gefnogi'n ariannol, o bosib o dde Cymru".

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos i gysylltu â nhw, gan ddweud y byddant yn ymchwilio i "unrhyw un sy'n cynorthwyo Mr Ege neu sydd wedi gwneud yn y gorffennol".

'Galaru pob dydd'

Naw mlynedd wedi marwolaeth Aamir, mae ei rieni wedi annog "unrhyw un sydd â gwybodaeth all helpu'r heddlu i gysylltu gyda nhw" er mwyn dod â'r profiad i ben a cheisio "atal y fath drasiedi rhag digwydd eto".

Ychwanegodd ei rieni: "Mae ffrindiau [Aamir] wedi tyfu'n oedolion rhagorol, maen nhw wedi teithio, cael swyddi ac mae rhai wedi priodi.

"Ni chafodd ein mab y cyfle i wneud y pethau yma ac rydyn ni'n galaru ei golled bob dydd."