Marwolaeth 'wedi dinistrio teulu'

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae tad llanc 17 oed, gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ei gartre' yng Nghaerdydd, wedi dweud wrth lys beth oedd yr effaith ofnadwy ar y teulu.

Roedd Aamir Siddiqi yn astudio ar gyfer lefel A pan ganodd y gloch ac fe aeth i'r drws gan ei fod yn disgwyl athro Coran.

Bu farw ar ôl ymosodiad dau ddyn oedd wedi cymryd heroin, yn gwisgo mygydau ac yn cario cyllyll.

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, wedi eu cyhuddo o lofruddio Aamir a cheisio llofruddio ei rieni.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe gyfweliad wedi'i recordio a'r tad - Iqbal Ahmad - yn dweud: "Yn emosiynol, rydym wedi ein dinistrio."

'Bywyd yn wag'

Dywedodd fod yr hyn ddigwyddodd yn Ebrill 2010 yn ddigon i wneud unrhyw un yn wallgof.

Yn ôl y tad, roedd marwolaeth Aamir wedi chwalu bywydau ei wraig, Parveen, ac yntau.

Eglurodd fod tair o ferched y pâr yn llawer hŷn nag Aamir a bod eu holl gynlluniau ers blynyddoedd wedi "canolbwyntio ar Aamir".

"Unwaith yr oedd wedi mynd, roedden ni mewn sefyllfa anodd iawn," meddai'r tad 68 oed.

Esboniodd ei fod wedi ymddeol. "Mae bywyd wedi troi'n wag iawn. Roedd popeth yr oedden ni'n wneud ar gyfer Aamir."

Dywedodd fod "bywyd wedi colli'i bwrpas" ac ychwanegodd: "Mae wedi ein gwneud ni'n ansicr ac yn anhapus iawn ... rydym yn ceisio delio â'r holl beth."

A dywedodd mam Aamir iddi weld rhywun wrth y drws a chymryd yn ganiataol fod rhywun wedi dod i ddysgu'r Coran i'w mab.

"Roeddwn i'n agos iawn at y drws ac fe allwn i fod wedi'i agor ond fe ddywedodd Aamir wrtha' i y byddai e'n gwneud," meddai.

Sgrechian

Disgrifiodd sut y gwelodd gyllell hir a thrwchus wrth agor y drws a bod y ddau ddyn oedd yno wedi dechrau sgrechian.

"Rwy'n credu fod y cyfan wedi digwydd mor gyflym, nad oedd Aamir wedi cael amser i droi."

Ar y cychwyn roedd hi'n credu mai jôc oedd y cyfan ac wedyn mai lladron oedd y dynion, ond iddi geisio tynnu ei mab yn ôl tuag ati pan sylweddolodd beth oedd yn digwydd.

Wrth iddi geisio tynnu Aamir, cafodd ei hanafu gan gyllell.

Roedd y rhieni wedi ffonio 999 yn syth wedi i'r dynion adael ond dywedodd ei bod wedi disgyn i'r llawr ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd.

"Does dim byd yn werthfawr bellach," meddai.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.