Pleidleisio o blaid sefydlu canolfan ailgylchu Aber-miwl

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr Aber-miwl
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 50 o brotestwyr yn bresennol yn y cyfarfod

Mae ymgyrchwyr yn erbyn canolfan ailgylchu ym Mhowys wedi mynnu y byddan nhw'n parhau i frwydro'u hachos.

Daw hynny wedi i gabinet Cyngor Sir Powys bleidleisio'n unfrydol o blaid cynllun i fwrw 'mlaen â'r safle ger pentref Aber-miwl.

Yn ystod y cyfarfod yn Llandrindod, mynnodd arweinydd y cyngor, Rosemary Harris bod "llawer iawn o ymgynghori wedi digwydd gyda'r gymuned leol".

Ond cafodd hynny ei herio gan y protestwyr, gyda thua 50 ohonyn nhw'n bresennol yn y cyfarfod.

'Hollol fyrbwyll'

Wrth siarad ar ddechrau'r cyfarfod, dywedodd y cynghorydd Gareth Pugh, sy'n cynrychioli'r ward ble mae Aber-miwl, fod cynlluniau'r cyngor yn "hollol fyrbwyll".

Ychwanegodd fod y safle'n "anaddas" ar gyfer canolfan ailgylchu, gan alw ar y cabinet i oedi eu penderfyniad.

Ond dywedodd y cynghorydd Phyl Davies, deilydd y portffolio ailgylchu, fod "bygythiad o ddirwyon i ni gan Lywodraeth Cymru" os nad oedden nhw'n cyrraedd targedau ailgylchu.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Medi 2018 fe wnaeth 200 o bobl gymryd rhan mewn protest yn erbyn cynlluniau'r cyngor sir

Fe fyddai'r ganolfan yn Sir Drefaldwyn yn gyfrifol am brosesu ailgylchu domestig, megis gwydr, caniau a gwastraff bwyd.

Mewn adroddiad aeth gerbron y cabinet, dywedodd Mr Davies mai Parc Busnes Aber-miwl "yw'r safle mwyaf priodol ar gyfer datblygiad o'r fath".

Mae ymgyrchwyr yn dadlau y byddai'r safle yn cael effaith negyddol ar y pentref, a bod y cyngor heb roi digon o ystyriaeth i safleoedd eraill.

Llynedd fe wnaeth dros 200 o bobl gynnal protest ger safle'r ganolfan arfaethedig, tua hanner milltir o ganol y pentref.

'Parhau i frwydro'

Ychwanegodd Mr Davies y byddai llawer o lefydd yn "hapus i gael" safle o'r fath, ond nad oedd y cyngor wedi dod o hyd i rywle oedd yn fwy priodol nac Aber-miwl.

Ar ddiwedd y cyfarfod, fe ddywedodd rhai o'r ymgyrchwyr y byddan nhw'n parhau i frwydro.

"Dydy hyn ddim drosodd o bell ffordd," meddai Ernie Jones, sy'n byw yn y pentref.