Protest yn erbyn canolfan ailgylchu newydd ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 200 o bobl wedi cymryd rhan mewn protest yn erbyn cynlluniau Cyngor Sir Powys i greu canolfan ailgylchu newydd.
Byddai'r ganolfan yn Aber-miwl yn gyfrifol am brosesu ailgylchu domestig, megis gwydr, caniau a gwastraff bwyd.
Mae protestwyr o'r farn y bydd y ganolfan yn cael effaith negyddol ar yr ardal, gan arwain at gynnydd mewn traffig a lefelau sŵn.
Dywedodd Cyngor Sir Powys ei bod hi'n angenrheidiol eu bod nhw'n cyrraedd targedau ailgylchu newydd Llywodraeth Cymru.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau blwyddyn nesaf.
Cafodd cais y cyngor i adeiladu'r ganolfan ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais hynod o agos gan y pwyllgor cynllunio ym mis Awst.
'Angenrheidiol'
Dywedodd Steve Meadowcroft, aelod o Abermule Communities Together: "Nid ydym ni'n gwrthwynebu ailgylchu mewn unrhyw ffordd, ond mae rhaid iddo ddigwydd yn y lle iawn, ar stad ddiwydiannol, dim yng nghanol cymuned fach wledig,".
Cerddodd y protestwyr am hanner milltir o ganol Aber-miwl, tu ôl i fand Jazz, i'r safle sydd wedi ei nodi ar gyfer y gwaith adeiladu.
Wrth ymateb i'r cwynion, dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies: "Mae'r ganolfan ailgylchu yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y gorau allan o'n cerbydau casglu,
"Ac i sicrhau ansawdd y deunydd sy'n cael ei gasglu wrth i ni barhau i gynyddu ein lefelau ailgylchu i gyd-fynd a thargedau Llywodraeth Cymru."