176 o weithwyr Allied Bakeries i golli eu swyddi

  • Cyhoeddwyd
Allied BakeriesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad yn effeithio ar bron hanner y 360 o weithwyr sy'n cael eu cyflogi gan y cwmni yng Nghaerdydd

Mae cwmni Allied Bakeries wedi cadarnhau y bydd 176 o weithwyr yn colli eu swyddi wrth i waith cynhyrchu ddod i stop yn eu ffatri yng Nghaerdydd.

Wedi cyfnod o ymgynghori gyda staff a'u cynrychiolwyr, mae'r cwmni wedi penderfynu troi'r safle yn ganolfan ddosbarthu.

Dywed rheolwyr mai trosglwyddo gwaith cynhyrchu i safleoedd eraill oedd "y ffordd fwyaf effeithiol" o ymateb i heriau marchnad gystadleuol a sicrhau bod rhwydwaith y cwmni yn fwy effeithlon ar draws y DU.

Daw'r penderfyniad - sy'n effeithio ar hanner gweithlu'r safle yng ngogledd y brifddinas - wedi i'r cwmni golli cytundeb allweddol yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae datganiad y cwmni'n mynegi gofid bod 176 o weithwyr yn cael eu diswyddo, gan gynnwys nifer o reolwyr.

"Rydym yn hynod ymwybodol o effaith y penderfyniad yma ar bawb sy'n cael eu heffeithio," meddai'r cwmni yn y datganiad.

Bydd y gweithwyr hynny'n cael "cefnogaeth i geisio cael swyddi eraill yn y gymuned leol neu yn un o safleoedd eraill Allied Bakeries yn y DU".

Ychwanega'r cwmni y bydd y gefnogaeth hynny'n cynnwys cydweithio "gyda busnesau lleol, yr Adran Waith a Phensiynau a Gyrfa Cymru i adnabod cyfleoedd am waith a hyfforddiant".