Cynllun i ailagor tafarn y Cross Foxes yn Nhrawsfynydd

  • Cyhoeddwyd
Cross Foxes
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn y Cross Foxes wedi bod ynghau ers mis Ionawr 2018

Mae cynghorydd lleol wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gyda'r nod o sefydlu cwmni cymunedol er mwyn ailagor tafarn y Cross Foxes yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd.

Ar hyn o bryd does yr un tafarn yn y pentref, ond mae'r Cynghorydd Elfed Wyn Jones o Gyngor Cymuned Trawsfynydd eisiau newid hynny.

"Deng mlynedd yn ôl roedd 'na dair tafarn yma - Y Llew Gwyn a gaeodd yn 2006, y Rhiw Goch a losgodd lawr llynedd, ac fe gaeodd y Cross Foxes yn Ionawr 2018 hefyd," meddai.

"Mae hi'n golled ofnadwy - dydy'r gymuned ddim yn teimlo'n gyflawn heb dafarn."

Elfed Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dydy'r gymuned ddim yn teimlo'n gyflawn heb dafarn," medd Elfed Wyn Jones

Gobaith Mr Jones ydy edrych ar y posibilrwydd o gael y gymuned i brynu'r Cross Foxes, ac mae wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus fis nesaf i weld os oes gan bobl leol ddiddordeb gwneud hynny.

"Dwi wedi trefnu'r cyfarfod cyhoeddus ac mae 'na lot fawr o bobl wedi dangos diddordeb yn barod a dangos brwdfrydedd," meddai.

"Dwi'n obeithiol y bydd pobl y pentre' eisiau gweld hyn yn digwydd."

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Trawsfynydd ar nos Wener, 27 Medi.