Gwahardd capten Y Barri am chwe mis am ymddygiad ymosodol
- Cyhoeddwyd
![Jordan Cotterill](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/4D51/production/_108839791_cdf_270713_barry_town_v_cardiff_city_44.jpg)
Mae capten Y Barri wedi cael ei wahardd am chwe mis gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn sgil honiad o ymddygiad ymosodol at ddyfarnwr.
Daw'r gwaharddiad yn sgil digwyddiad yn y gêm rhwng Y Barri a Phenybont yn Uwch Gynghrair Cymru ar 16 Awst.
Doedd Jordan Cotterill ddim yn bresennol yn y gwrandawiad, ond fe'i gafwyd yn euog o ymosod yn unol â rheolau'r Gymdeithas.
Mae ganddo tan 25 Medi i apelio yn erbyn y gwaharddiad sydd mewn grym tan 21 Chwefror 2020.