252 o weithwyr cwmni dodrefn yn colli eu swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae 252 o weithwyr wedi colli eu swyddi ar ôl i gwmni dodrefn o dde Cymru fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Mae gan Triumph Furniture Limited, sy'n gwneud dodrefn ar gyfer swyddfeydd, safleoedd ym Merthyr Tudful a Dowlais.
Dywedodd y gweinyddwyr, Begbies Traynor Group, bod y cwmni wedi methu â lleihau ei gostau gweithredu yn dilyn gostyngiad "digynsail" mewn gwerthiant dros y 10 wythnos ddiwethaf.
Cafodd y cwmni teuluol ei sefydlu yn 1946, a bydd 239 o'r swyddi yn cael eu colli'n syth.
Bydd 13 o'r gweithwyr yn parhau dros dro er mwyn helpu'r gweinyddwyr.
'Ergyd i'r gymuned gyfan'
Dywedodd prif swyddog ariannol Triumph Furniture, Andrew Jackson: "Mae'r teulu wedi'u tristau gan y datblygiad ofnadwy yma, ac yn bryderus iawn am les yr holl weithwyr a'u teuluoedd ar yr amser anodd yma.
"Mae'r busnes wedi dioddef gostyngiad sydyn a thrychinebus yn nifer yr archebion ers canol mis Gorffennaf, sydd wedi bod yn amhosib gwella ohono, er gwaethaf ein hymdrechion."
Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Kevin O'Neill bod y newyddion yn "ergyd, nid yn unig i'r cwmni a'r gweithwyr, ond i'r gymuned gyfan".
"Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Ganolfan Byd Gwaith er mwyn cynnal diwrnod recriwtio yn benodol ar gyfer y rheiny sy'n cael eu heffeithio," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r digwyddiad hwnnw'n cael ei gynnal ddydd Iau.