Cau safle Mondi, Sir y Fflint i arwain at golli 167 swydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni pecynnu wedi cyhoeddi ei fwriad i gau dwy ffatri, allai arwain at golli dros 160 o swyddi yng Nghymru.
Dywedodd cwmni Mondi y byddai'n cau ei safle ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, lle bydd 167 o swyddi'n diflannu.
Yn ogystal bydd yn cau ail safle yn Nelson, Sir Gaerhirfryn, gan effeithio 41 o swyddi.
Dywedodd y cwmni mai "newid yn y galw" am y nwyddau sydd ar fai.
Mae'r cwmni hefyd wedi dweud y bydd y prif weithredwr, Peter Oswald, yn gadael y cwmni erbyn 31 Mawrth.
Mae disgwyl i'r safleoedd gau erbyn ail hanner 2020.