Pro14: Connacht 29-0 Y Gleision
- Cyhoeddwyd
Cic gosb gynnar Jack Carty a cheisiau gan Dave Heffernan a Peter Robb wnaeth sicrhau bod Connacht ar y blaen 15 - 0 erbyn diwedd yr hanner cyntaf.
Roedd Gleision Caerdydd wedi cyflwyno rhai newidiadau yn gynnar yn yr ail hanner ond methwyd atal llif chwarae Connacht. Fe ddaeth cais arall gan Porch i gynyddu'r fantais.
Fe gafwyd ymdrech dda gan y Gleision i newid pethau, ac am gyfnod bu'r tîm yn nwy ar hugain y tîm cartref, dim ond i golli meddiant yn y pen draw, ac fe ddaeth cais arall i'r gwrthwynebwyr gan Godwin.
Roedd y tywydd wedi dirywio erbyn diwedd y gêm a'r ymwelwyr yn gorfod gadael yn waglaw a wynebu taith dymhestlog `nol adre ar draws Môr Iwerddon.
Gleision Caerdydd: D Fish; J Harries, R Lee-Lo, G Smith, H Amos; J Tovey, L Williams (capt); R Gill, L Belcher, D Arhip, F Paulo, J Ratti, J Turnbull, O Robinson, W Boyde.
Eilyddion: K Dacey, C Domachowski, S Andrews, S Davies, N Williams, L Jones, B Thomas, R Edwards.
Connacht: T O'Halloran; J Porch, K Godwin, P Robb, M Healy; J Carty, K Marmion: P McAllister, D Heffernan, F Bealham, U Dillane, G Thornbury, P Boyle, C Fainga'a, J Butler (capt).
Eilyddion: S Delahunt, D Buckley, D Robertson-McCoy, J Maksymiw, E McKeon, C Blade, C Fitzgerald, T Daly