Taliad ychwanegol o £500 yr un i weithwyr gofal Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol Cymru'n derbyn taliad ychwanegol o £500 i gydnabod gweithlu sy'n aml "yn cael ei danbrisio a'i anwybyddu".
Bydd y taliad yn cael ei roi i ryw 64,600 o staff cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ar draws Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai dyma'r bobl sy'n "darparu'r sgaffaldau anweledig o wasanaethau sy'n cefnogi'r GIG a'r gymdeithas ehangach".
Mae Mr Drakeford hefyd wedi rhybuddio y bydd pobl yn dal i gadw draw o wasanaethau hyd yn oed ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio os nad ydyn nhw'n teimlo fod hi'n saff i'w defnyddio.
'Gwerthfawrogi popeth maen nhw'n gwneud'
Wrth gyhoeddi manylion y taliad ychwanegol yng nghynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd: "Rwyf am i'r gweithlu gofal cymdeithasol wybod fod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod.
"Bwriad y taliad yma yw rhoi mwy o gydnabyddiaeth i'n gwerthfawrogiad ni i bopeth maen nhw'n gwneud."
Ychwanegodd fod degau ar filoedd o weithwyr "yn gofalu am rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac yn gwneud hynny gyda chryn ymroddiad, yn aml dan amgylchiadau heriol".
"Maen nhw'n cyflawni tasgau â lefel uchel o ofal personol iawn, gan dderbyn yn aml elfen uwch o risg a chyfrifoldeb. Mae llawer... yn cyfuno cyfrifoldebau gofal eu hunain â'u cyfrifoldebau proffesiynol."
Bydd rhagor o fanylion yn fuan ynghylch y taliad ychwanegol ac mae Llywodraeth Cymru'n trafod y trefniadau gydag awdurdodau lleol, undebau llafur a Fforwm Gofal Cymru.
Galwodd Mr Drakeford ar Lywodraeth y DU i beidio trethu'r £500 fel bod gweithwyr yn derbyn y swm llawn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trafod gyda'r Adran Waith a Phensiynau i sicrhau nad yw'n effeithio ar weithwyr sydd hefyd yn derbyn budd-daliadau.
Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 17 marwolaeth arall o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 925.
Cafwyd cadarnhad hefyd o 160 achos newydd, gyda 9,972 bellach wedi cael prawf positif am Covid-19 - ond mae gwir nifer y bobl sydd wedi cael yr haint yn llawer uwch mewn gwirionedd.
Dros y gwaethaf?
Wrth siarad yn y gynhadledd, dywedodd Mr Drakeford ei fod hefyd yn credu bod Cymru "wedi dechrau dod dros frig y coronafeirws".
Daeth hynny yn dilyn sylwadau ddydd Iau gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson fod y DU "dros y gwaethaf".
Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford "na fydden ni'n ei disgrifio hi felly yng Nghymru", ond bod nifer y bobl mewn gwlâu gofal dwys oedd â Covid-19 yn gostwng ac nad oedd y feirws yn lledaenu i'r un graddau yn y gymuned bellach chwaith.
"Mater arall yw a ydyn ni wedi dod drosto fe ddigon," meddai.
Ychwanegodd bod "trafodaeth yn parhau" ynglŷn ag effeithiolrwydd gwisgo masgiau er mwyn atal lledaeniad yr haint, ond ni aeth mor bell â Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon sydd wedi argymell eu gwisgo wrth siopa ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Dydyn ni ddim mewn lle yng Nghymru eto ble mae'n Prif Swyddog Meddygol wedi cymryd y safbwynt hwnnw," meddai.
Wrth siarad ar raglen Today BBC Radio 4 yn gynharach fore Gwener, rhybuddiodd Mr Drakeford y bydd pobl yn pwyllo cyn ailddefnyddio gwasanaethau ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Dywedodd y byddai'n rhaid llacio'r mesurau'n "ofalus" a "mynd â phobl gyda ni".
Ategodd hefyd ei fod yn awyddus i weld pob un o wledydd y DU yn cymryd camau i ailagor ar yr un pryd, er mwyn osgoi dryswch i bobl.
Ond mynnodd bod gan Gymru le i wneud pethau'n wahanol os oes angen, gan gynnwys gyda'r penderfyniad yr wythnos hon i beidio â phrofi pawb mewn cartrefi gofal am Covid-19.
'Addasu ar gyfer Cymru'
Dywedodd fod angen cymryd camau i "sicrhau bod pobl yn teimlo'n saff a hyderus" cyn ailagor cyfleusterau.
"Rydyn ni wedi bod yn meddwl er enghraifft, os oeddech chi'n ailagor llyfrgelloedd, beth fyddai rhaid i'r rheolau fod?"
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod angen edrych ar sgwrs gyda'r cyhoedd am y pethau yr hoffen nhw weld yn cael eu trefnu o flaen llaw, fel bod unrhyw beth 'dyn ni yn agor lan yn edrych iddyn nhw fel rhywle y bydden nhw'n hyderus i'w ddefnyddio."
Ategodd y Prif Weinidog ei neges y byddai'n well i holl wledydd y DU lacio'r cyfyngiadau coronafeirws gyda'i gilydd.
"Fe aethon ni mewn i'r cyfyngiadau ar yr un termau, ar yr un diwrnod," meddai. "Hoffwn ein gweld ni'n dod mas ar yr un sail.
"Ond fe fyddwn ni'n defnyddio'r pwerau sydd gennym ni i addasu'r trefniadau a'i gwneud nhw'n iawn ar gyfer Cymru."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ddydd Iau fe wnaeth 12 o ASau Ceidwadol Cymru fynegi pryder bod Cymru heb ddilyn esiampl Lloegr a phrofi mwy o bobl am yr haint, gan gynnwys y rheiny mewn cartrefi gofal, â phobl dros 65 sydd â symptomau.
Dywedodd Mr Drakeford nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod profi pobl heb symptomau "yn dangos unrhyw beth defnyddiol i chi".
Ychwanegodd y dylai cartrefi gofal fod yn ymddwyn "fel petai gan bawb y feirws o bosib", ac felly na fyddai cynnal profion "yn gwneud llawer o wahaniaeth".
Ond yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd y byddai pobl mewn cartrefi gofal yn cael eu profi os oedd eraill yno oedd yn dangos symptomau o'r haint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020