Llywodraeth Cymru'n gwrthod ehangu profion cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd Cymru'n dilyn Lloegr trwy brofi staff a phreswylwyr pob cartref gofal, dim ots os oes ganddyn nhw symptomau coronafeirws ai peidio.

Daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth y byddai'r polisi ar brofi mewn cartrefi gofal yn cael ei ehangu yn Lloegr.

Ond dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething ei fod wedi cael cyngor nad profi pawb yn y sector fyddai'r defnydd gorau o adnoddau.

Mae GIG Cymru yn profi staff a phreswylwyr cartrefi gofal sy'n dangos symptomau, ond nid y rheiny sydd ddim.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mae 184 o bobl wedi marw â Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething y byddai eu polisi yn cael ei adolygu wrth i dystiolaeth ddatblygu

Ar BBC Radio Wales fore Mercher fe wnaeth cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft alw ar GIG Cymru i roi cynllun tebyg i'r un yn Lloegr mewn grym yma.

Ond dywedodd Mr Gething na fyddai hynny'n digwydd.

'Beth yw'r pwrpas?'

"Rydw i wedi cael cyngor clir gan y Prif Swyddog Meddygol mai nid profi pawb yn y sector gofal ydy'r defnydd gorau o'n hadnoddau," meddai.

"Mae'n rhaid i chi feddwl beth sy'n mynd i ddigwydd os ydych chi'n gwneud hynny.

"Os ydych chi'n profi rhywun heddiw rydych chi'n cael canlyniad, ond os ydych chi'n eu profi nhw'n ddiweddarach ar yr un diwrnod fe allwch chi gael canlyniad gwahanol. Beth yw pwrpas gwneud hynny?"

Dadansoddiad: Catrin Haf Jones, Gohebydd Gwleidyddol

Mae'r penderfyniad yn un arwyddocaol gan Lywodraeth Cymru. Ddydd Mawrth fe wnaeth Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, gyhoeddi y byddai pawb mewn cartrefi gofal yn Lloegr - staff a phreswylwyr - nawr yn cael eu profi, symptomau neu beidio.

Ond fore Mercher dyma Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething yn dweud na, bod profi pob un ac unrhyw un ddim yn ddefnydd da o adnoddau - a'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ategu hynny'n ddiweddarach yn y dydd, gan ddweud nad oes gwerth mewn profi pawb, dim ond rheiny â symptomau.

Dyma'r gwahaniaeth polisi mwya', cliria', ry'n ni wedi gweld rhwng Cymru a San Steffan hyd yn hyn wrth daclo'r coronafeirws. Ac ynghlwm â hynny, cwestiynau go bigog ynglŷn â'r cymhellion yn Lloegr - honiadau gan Lywodraeth Cymru mai modd o gyrraedd eu targed profion dyddiol yw'r cam yma yn Lloegr, er nad oes unrhyw "dystiolaeth glinigol bod gwerth mewn gwneud hyn".

Ac o edrych ar sut mae'r profion yn gweithio, efallai bod rhyw synnwyr yn hynny: dim ond ffenest fach o amser sydd, tra bod pobl yn dangos symptomau, er mwyn cynnal prawf effeithiol.

Ond nid pawb â Covid-19 sydd â symptomau, mae'n debyg.

A phetai mwy o gapasiti profi gan Gymru, oni fyddai mwy o brofion yn digwydd? Byddai, mae'n siŵr - felly does dim osgoi'r ffaith bod hyn oll yn arwain yn ôl at yr angen am fwy o brofion yng Nghymru - a'r targed hwnnw a fethwyd o 5,000 o brofion dyddiol erbyn canol Ebrill, yn hytrach na'r capasiti presennol o 2,100 o brofion dyddiol.

Does dim chwaith modd osgoi'r ffaith mai cysur prin iawn fydd y drafodaeth yma i gyd i'r rheiny mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd - lle mae o leia' 184 o breswylwyr wedi marw â'r feirws yng Nghymru hyd yn hyn, a'r ffigwr hwnnw yn dal i dyfu.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mario Kreft yn galw am gael cynllun tebyg i'r un yn Lloegr yng Nghymru hefyd

Dywedodd Mr Kreft bod y sector cartrefi gofal yng Nghymru a'r DU yn ehangach yn cael ei weld fel maes ble mae gwleidyddion yn derbyn y bydd pobl yn marw.

"Yr hyn sy'n rhaid i ni wneud rŵan ydy sicrhau bod pobl yn y sector gofal yn cael eu hamddiffyn, ac mae angen gwneud yn siŵr ei bod yn ddiogel i bobl adael yr ysbyty, a gwneud hynny trwy gael system brofi effeithiol," meddai.

Dywedodd bod rhyddhau pobl o'r ysbyty yn rhy gynnar, heb eu profi, wedi ychwanegu at y broblem coronafeirws mewn cartrefi gofal.

Ychwanegodd Mr Kreft ei fod o'r farn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru "heb ymwneud â'r sector gofal yn y ffordd y dylen nhw fod wedi yn ddigon cynnar".

'Rhy araf'

Dywedodd Glyn Williams, perchennog Cartref Preswyl Gwyddfor ym Modedern, Ynys Môn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "rhy araf" yn ymateb i'r problemau mewn cartrefi gofal.

"Mae gennym ni bobl mewn cymuned glos, ac os ydy o [Covid-19] yn cael i mewn i'r cartref mae am symud o gwmpas yn sydyn iawn - does dim ots pa mor dda ydy'ch cynllun atal heintiau," meddai.

"Maen nhw [Llywodraeth Cymru] yn bendant wedi bod yn rhy araf - lwc ydy nad yw wedi cyrraedd ein cartref ni.

"Roedden ni'n cael ysbytai yn ein ffonio ni'n gofyn i ni gymryd cleifion, ond doedd 'na ddim unrhyw brofi.

"Yn ffodus i ni roedden ni eisoes yn llawn felly doedden ni ddim yn gallu cymryd unrhyw un newydd."

'Dim gwerth'

Mewn cyfarfod rhithwir o'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Y rheswm ry'n ni ddim yn cynnig profion i bawb mewn cartrefi gofal... yw oherwydd bod tystiolaeth glinigol yn dweud wrthym nad oes gwerth mewn gwneud hynny.

"Bydden yn profi pobl heb symptomau, heddiw - ond i hynna fod yn neges ddibynadwy iddyn nhw, byddai rhaid profi eto fory.

"Oherwydd mae modd mynd o beidio cael symptom i gael symptomau mewn 24 awr.

"Byddai defnyddio'r capasiti sydd gennym yn y ffordd yna yn dargyfeirio o fan lle mae'n werth gwneud hynny.

"Ry'n yn gweithio gyda'r sector cartrefi gofal i ystyried system brofi ehangach mewn cartrefi lle mae haint coronafeirws yn amlwg yn bresennol."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal, Janet Finch-Saunders, ei bod yn "syfrdanol" nad yw Llywodraeth Cymru'n dilyn esiampl Llywodraeth y DU.

"Mae'n allweddol ein bod yn asesu'r risg i staff a phreswylwyr ein cartrefi gofal," meddai.

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds ei bod yn "hynod bryderus" na fydd holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn cael eu profi.

"Rwy'n annog y Gweinidog Iechyd i ailystyried - bydd cael hyn yn anghywir yn costio bywydau."

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, Delyth Jewell ei bod yn "sarhaus dweud nad yw amddiffyn preswylwyr a staff cartrefi gofal yn ddefnydd gorau o adnoddau".

"Mae rheolwyr cartrefi gofal angen profion i wybod sut i atal y feirws rhag lledaenu," meddai.

"Mae penderfyniad Vaughan Gething yn gwrth-ddweud yr hyn sydd ei angen."