24 mlynedd o garchar am drywanu dyn 21 oed i farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i 24 mlynedd o garchar am drywanu dyn 21 oed i farwolaeth yn y ddinas wedi ffrae tu allan i fwyty McDonald's dros wydryn o Jack Daniels a Coke.
Roedd Momodoulamin Saine, 28 oed ac o Drelái, yn honni ei fod yn amddiffyn ei hun pan ymosododd ar Asim Khan, ond fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd ei fod yn euog o lofruddiaeth.
Dechreuodd y ffrae wedi i frawd Mr Khan, Hamza, yn ddamweiniol, arllwys diod gwerth £6.50 yr oedd Saine wedi ei adael ar y llawr mewn man ysmygu tu allan i glwb nos Soda yng nghanol y ddinas.
Cafodd Mr Khan, o ardal Grangetown, ei drywanu ddwywaith yn ei stumog yn yr oriau mân ddydd Sul 21 Gorffennaf a bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty.
Wrth ddedfrydu Saine, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Martin Griffiths fod y rheswm dros y ffrae "yn bitw" a "chwerthinllyd".
Dywedodd Hamza Khan: "Bu farw yn fy mreichiau. Bydd y sioc gyda fi weddill fy oes."
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi gadael y clwb nos wedi i'r ddiod gael ei arllwys, a bod y brodyr wedi aros yno tan 04:00 cyn gadael i chwilio am fwyd.
Roedden nhw tu allan i'r bwyty yn Heol Eglwys Fair pan gymrodd Saine un o'u diodydd a cherdded i ffwrdd.
Aeth y brodyr ar ei ôl ac fe daflodd Saine y ddiod atyn nhw. Taflodd Asim Khan ddiod ei hun ato. Yn y ffrwgwd dilynol, cafodd Saine ei gicio i'r llawr. Tynnodd gyllell yn annisgwyl o'i boced gan drywanu Asim Khan.
Gwelodd y rheithgor luniau CCTV'n dangos Asim Khan yn cwympo i'r llawr ychydig cyn 05:00. Cafodd driniaeth gan barafeddygon ond daeth cadarnhad yr yr ysbyty ei fod wedi marw.
Dywedodd ei fam mewn datganiad i'r llys fod hi a'i theulu "mewn poen annioddefol" ers noson y farwolaeth.
"Rydym wedi ein llorio ers hynny," meddai. "Bod diwrnod rydym yn galaru colli Asim. Ni allwch ddychmygu poen a thorcalon gwaeth."
Dywedodd y barnwr bod arllwys y ddiod "yn ddigwyddiad pitw" ac yn rhywbeth "chwerthinllyd" i gwyno yn ei gylch.
Ychwanegodd fod Saine wedi sarhau'r brodyr ar sail hil cyn trywanu Asim Khan.
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, y Ditectif Prifarolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru fod Asim Khan "yn ddyn ifanc llawn potensial".
"Yr hyn a ddaeth i'r amlwg gydol yr ymchwiliad a'r achos oedd fod Saine yn unigolyn treisgar, peryglus oedd â chyllell ar strydoedd Caerdydd."
Cafodd Hamza Khan, 25 oed ac hefyd o Grangetown, ei gael yn euog o achosi niwed corfforol difrifol am gicio Saine tra roedd ar y llawr. Bydd yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019