Llofruddiaeth Caerdydd: Brawd yn osgoi carchar

  • Cyhoeddwyd
Asim KhanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Asim Khan, a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn y ffrwgwd

Mae dyn wedi osgoi cyfnod o garchar am ei ran mewn ffrwgwd yng nghanol Caerdydd, lle cafodd ei frawd iau ei drywanu i farwolaeth.

Cafodd Hamza Khan ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi'i ohirio, ar ôl i lys ei gael yn euog o achosi niwed corfforol difriol bwriadol trwy gicio Momodoulamin Saine yn ei ben.

Mae Saine, 28, o Drelái, Caerdydd, eisoes wedi cael ei garcharu am oes am ladd Asim Khan, brawd iau Hamza Khan, ym mis Gorffennaf 2019 mewn ffrae a ddechreuodd wedi i ddiod Saine gael ei droi drosodd.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths wrth Hamza Khan ei fod wedi ystyried "nodweddion anghyffredin" yr achos.

"Rwyf am wneud hyn yn berffaith glir - nid chi oedd ar fai am lofruddiaeth eich brawd, dim o gwbl. Er fod y ddau ohonoch wedi ymateb mewn ffordd na ddylech fod wedi gwneud, roedd o [Saine] isio ymladd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Momodoulamin Saine, gafodd ei garcharu am oes am lofruddio Asim Khan

'Eiliad a newidiodd ei fywyd'

Yn gynharach, dywedodd Chris Rees, bargyfreithiwr Mr Khan, ei fod yn "dal i alaru am ei frawd, ac wedi cael diagnosis o or-bryder ac iselder. Mae'n teimlo'n euog nad oedd wedi gallu helpu ei frawd."

Roedd hi'n "eiliad a newidiodd ei fywyd," meddai.

Dadleuodd Mr Rees yn erbyn cyfnod o garchar oherwydd yr hyn yr oedd y teulu wedi bod drwyddo.

"Mae'r teulu wedi colli un mab, un brawd. Efallai y bydd y llys yn ystyried fod mam a tad y diffynydd wedi dioddef digon yn barod.

"Mae'n amlwg y byddai carcharu'r diffynydd, ar ben yr hyn ddigwyddodd i Asim y noson honno, yn ergyd drom i'r teulu."

Roedd y llys wedi clywed fod y tri dyn y tu allan i far Soda yng nghanol y brifddinas yn oriau man y bore, pan wnaeth Hamza Khan droi diod Saine drosodd ar ddamwain.

Roedd Saine wedi gadael y bar, ond yn ddiweddarach gwelodd y brodyr tu allan i McDonald's ar Heol Eglwys Fair, a chymerodd un o'u diodydd a'i daflu tuag atynt wrth i'r ddau fynd ar ei ôl.

Fe aeth yn ffrwgwd rhyngddynt a chafodd Saine ei gicio i'r llawr.

'Edifeirwch didwyll'

Roedd lluniau camerau cylch cyfyng yn dangos Hamza Khan yn cicio Saine yn yr ymosodiad, a barodd gwta chwe eiliad.

Dywedodd Mr Ustus Gritffiths wrth Hamza Khan y bydd "marwolaeth eich brawd gyda chi am byth," ond roedd yn amlwg ei fod yn dangos "edifeirwch didwyll" am ymosod ar Saine.

Ar ben y ddedfryd o ddwy flynedd o garchar gohiriedig, cafodd Hamza Khan orchymyn i aros gartref rhwng 20:00 a 06:00, a bydd rhaid iddo dalu £149 fel taliad dioddefwr.