Agor cwest i farwolaeth merch ysgol mewn afon

  • Cyhoeddwyd
Nicola Williams
Disgrifiad o’r llun,

Blodau wedi'u gadael ger yr afon i gofio am Nicola Williams

Clywodd cwest i farwolaeth merch 15 oed o Gaerdydd sut y cafodd ei chipio i ffwrdd gan gerrynt cryf afon yn y brifddinas.

Bu farw Nicola Williams, 15 oed, yn Afon Rhymni yn ardal Llanrhymni o'r ddinas ar ddydd Gwener 21 Awst.

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i ymateb i'r digwyddiad am 17:20, ac fe aeth y gwasanaethau tân, ambiwlans a hofrennydd yr heddlu i gynorthwyo.

Clywodd y cwest fod swyddogion y gwasanaeth tân wedi dod o hyd i'w chorff oedd yn gorwedd dan ddŵr yr afon.

Cadarnhaodd meddyg oedd yno fod y ferch wedi boddi yn dilyn cael ei throchi gan ddŵr.

Fe ohiriodd dirprwy grwner Canol De Cymru, Thomas Atherton, y gwrandawiad tan 7 Medi 2021.