Cyhoeddi enw merch fu farw mewn afon yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Teyrngedau
Disgrifiad o’r llun,

Nifer o deyrngedau wedi'u gadael ar lan Afon Rhymni i Nicola Williams

Mae plismyn wedi cadarnhau mai Nicola Williams oedd enw'r ferch bymtheg oed a fu farw wedi digwyddiad yn Afon Rhymni yng Nghaerdydd nos Wener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:20 wedi adroddiadau fod merch yn yr afon yn Ball Lane, Llanrhymni.

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd iddi am 18.40 ond "er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys ei bod hi'n anffodus wedi marw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi bod yn gadael blodau i gofio am Nicola

Deallir bod Nicola yn ddisgybl yn Ysgol Babyddol Sant Illtyd yng Nghaerdydd ac mae ei ffrindiau a chyd-ddisgyblion wedi bod yn rhoi teyrngedau iddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd un ffrind: "Cwsg mewn hedd Nic - roeddet yn ferch mor hyfryd, wastad yn hapus ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i unrhyw un.

"Fydd yr ysgol fyth yr un fath hebddot ti."

Dywedodd cynghorydd Llanrhymni Keith Jones bod gweld "teulu yn colli plentyn y boen waethaf a bydd y gymuned yn gwneud pob dim posib i'w cynorthwyo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r gymuned yn dod i delerau â sut wnaeth merch 15 oed golli ei bywyd."

Dywed yr heddlu nad yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.