Clwstwr o achosion yn y Post Brenhinol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Post Brenhinol wedi cadarnhau bod 18 o staff yn eu swyddfa a chanolfan ddosbarthu ar Ffordd Penarth yng Nghaerdydd wedi profi'n bositif am coronafeirws.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad bod y 18 adref ar hyn o bryd, gan ychwanegu bod y cwmni wedi cymryd cyfres o gamau er mwyn cadw'r swyddfa ar agor.
Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod y cwmni wedi cyflwyno ystod o fesurau i warchod y cyhoedd a chydweithwyr gydol y pandemig.
Yn ogystal â mesurau hirdymor fel dosbarthu parseli yn ddi-gyswllt, dydyn nhw bellach ddim yn rhoi teclynnau i gwsmeriaid er mwyn cael llofnod fel mesur dros dro.
Am yr un cyfnod, mae'r cwmni wedi cyflwyno polisi o gael un person yn unig i bob cerbyd.
Mae'r staff wedi cael eu hatgoffa am fesurau pellter cymdeithasol a golchi dwylo, a bydd posteri a marciau ar lawr yn atgof arall i staff o'r angen i gymryd gofal yn y gweithle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020