Un farwolaeth Covid-19 wedi ei chofnodi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 388 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cadarnhau yn y 24 awr ddiwethaf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd un farwolaeth yn y 24 awr ddiwethaf hefyd, gan godi'r cyfanswm i 1,616.
Bellach yng Nghymru mae 23,985 o achosion positif wedi'u cadarnhau - er mae disgwyl i'r cyfanswm fod yn uwch.
Roedd 83 achos yn Rhondda Cynon Taf, 55 yng Nghaerdydd, 27 yn Abertawe, 21 yn Sir y Fflint, a 20 yng Nghasnewydd.
Mae'r nifer o achosion positif yn Rhondda Cynon Taf yn golygu fod cyfradd o 184 ar gyfer bob 100,000 o'r boblogaeth.
Yn Abertawe y ffigwr cyfatebol yw 100, gydag 87 yng Nghaerdydd.
Ar gyfer siroedd y gogledd sy'n wynebu cyfyngiadau pellach o yfory ymlaen - Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam - y ffigyrau yw 46, 38, 54 a 43 am bob 100,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020