Trafod treth bragdai bach annibynnol yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Bydd yr ymdrechion i warchod bragdai bach yn cael eu trafod yn San Steffan ddydd Llun.
Mae Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, yn cyhuddo Canghellor y Trysorlys o wneud tro gwael â bragdai bychain, annibynnol yng Nghymru wrth i lywodraeth San Steffan fwrw ymlaen â'r ffordd y mae bragdai'n cael eu trethu.
Dywed Ms Roberts fod dwsinau o fragdai ledled Cymru'n wynebu'r baich o dalu mwy o dreth oherwydd penderfyniad gan Drysorlys y DG i dorri'r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain.
Mae yna ofnau y gallai 90 o fragdai bychain yng Nghymru ddioddef yn sgil y newidiadau.
Dywed y Trysorlys eu bod yn cefnogi bragdai bach ac na fydd y newidiadau'n cael effaith ar 80% o fragdai bach.
Mae Ms Saville Roberts yn dweud ei bod wedi siarad â llawer o fragdai bychain yn ei hetholaeth sydd yn poeni am sut y buasai eu busnesau'n ymdopi gyda'r penderfyniad i dorri RhTBB o 5,000 hectolitr i 2,100 hectolitr.
Cafodd Rhyddhad Treth Bragdai Bychain ei gyflwyno yn 2002 i helpu egin-fragdai ddod yn broffidiol a chystadlu gyda cwmnïau bragu mawr.
Mae'r rhyddhad ar hyn o bryd yn rhoi i unrhyw fragdy sy'n cynhyrchu llai na 5,000 hl (880,000 peint) y flwyddyn ostyngiad o 50% ar y dreth gwrw.
'Wedi arwain at dwf bragdai llai'
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Ers ei gyflwyno yn 2002, mae'r RhTBB wedi caniatáu i Gymru a gweddill y DG ddatblygu sector bragdai crefft ffyniannus o'r safon uchaf, sy'n cefnogi tua 6,000 o weithwyr llawn-amser gan gyfrannu rhyw £270 miliwn i GDP y DG.
"Mae'r twf mewn bragdai crefft llai ledled Cymru wedi arwain at ymddangosiad brandiau lleol arbennig gan gynnwys Cwrw Llŷn yn Nefyn sydd wedi cryfhau ansawdd ac amrywiaeth diwydiant diodydd Cymru.'
"Mae'r bragdai bychain hyn eu hunain wedi gwreiddio yn eu cymunedau, yn cefnogi llawer o swyddi lleol, ac yn cyfoethogi'r hyn sydd gan ddarparwyr lletygarwch lleol i'w gynnig.
"Wedi Covid-19 maent yn wynebu bygythiad mwy fyth a llawer mwy pellgyrhaeddol o du Llywodraeth y DG.
"Yn hytrach nac ildio i bwysau gan fusnesau mawr, dylai'r llywodraeth wneud popeth yn eu gallu i leihau'r baich treth ar egin-fragdai bychain i'w helpu i dyfu a ffynnu."
'Bygythiad enfawr'
Dywedodd Myrddin ap Dafydd, cyfarwyddwr Cwrw Llŷn, bragdy crefft yn y gogledd orllewin: "Mae cwrw Cymreig yn rhan o becyn o gynnyrch, hunaniaeth a safonau uchel Cymreig yr ydym yn mwynhau eu rhannu gydag ymwelwyr i'n gwlad.
"Bydd llywodraeth San Steffan nid yn unig yn difrodi'r cwmnïau cynhyrchu cwrw Cymreig ond hefyd holl brofiad yr ymwelwyr yma i Gymru. Mae cwrw crefft Cymreig yn frand sefydledig sy'n cael ei werthfawrogi'n arw."
Dywedodd Sean Meagher o Fragdy Cader Ales yn Nolgellau: "Mae'r newid hwn yn fygythiad enfawr i'm busnes bach i ac i fwy na 150 o fragdai bach annibynnol ledled y wlad.
"Mae cyhoeddi newidiadau posib i'r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain a ninnau'n dal i frwydro trwy argyfwng Covid-19 yn creu llawer iawn o ansicrwydd ac yn peryglu dyfodol bragdai bychain."
'Ry'n yn cefnogi bragdai bach'
Dywed y Trysorlys eu bod yn cefnogi bragdai bach a bod nifer wedi dweud bod y drefn bresennol yn "atal eu busnes rhag tyfu". Ychwanegodd llefarydd y bydd bragdai bychain yn parhau i elwa wrth i'w busnesau ehangu yn raddol ac mae'n dweud bod y dull sy'n cael ei gynnig yn rhagori ar ddull sy'n cynnig dim neu bopeth lle mae'r dreth yn cael ei thynnu oddi ar gwmni yn gyflym wedi iddo gyrraedd lefel gwerthiant arbennig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018