Camu i fyd hudol gyda'r swynwraig Mhara Starling

  • Cyhoeddwyd
diwylliantFfynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mhara Starling

Wrth dyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru, roedd y swynwraig o Fôn, Mhara Starling yn ysu am gael dianc i ddinas fawr.

Doedd hi ddim yn mwynhau rygbi a ffermio fel ei chyfoedion o'i hamgylch, a doedd hi ddim yn teimlo fel ei bod yn 'perthyn' i'w chymuned.

Bu darllen am chwedloniaeth Cymru a'i thraddodiadau paganaidd yn allwedd i Mhara ddarganfod ei Chymreictod ei hun yn ei harddegau, a daeth yn fwy hyderus yn ei chroen ei hun.

Bellach mae'n cyflwyno hen chwedloniaeth ac arferion Cymru i dros 100 mil o wylwyr Tiktok ledled y byd.

Mewn rhifyn o Siarad Moel:Podlediad Aled Hughes, Mhara sy'n cyflwyno Aled i gredoau ein hynafiaid Celtaidd, ac i ddiwylliant paganaidd ein cyndeidiau a'n neiniau.

Meddai Mhara: "Pam o'n i'n tyfu fyny yn Aberffraw; lle bach yn Ynys Môn a phawb yn 'nabod ei gilydd, roedd pawb yn gweld fi reit od a difyr a o'n i'n cael fy mwlio lot yn ysgol. Dyna lle ddo'th y diddordeb mewn swygyfaredd. Nes i ffeindio llyfr mewn siop elusen am witchcraft a oedd 'na swyn i stopio bwlis. Nes i 'neud o a dwi'n meddwl na'th o weithio.

Ffynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mae cysylltu gyda'r tir yn bwysig i Mhara Starling

"Hefyd tra'n tyfu fyny, do'n i'm yn teimlo llawer o gysylltiad gyda Chymru ac o'n i bob tro yn deud wrth bobl, "Munud dwi ddigon hen dwi am adael achos 'sgen i'm byd i 'neud yn fan'ma.

"Munud nes i ffeindio swyngyfaredd a phaganiaeth a dechrau darllan am ddiwylliant Cymru efo swyn a hud gwerin, nes i ddechra' cysylltu efo bod yn Gymraeg.

"Mae gynnon ni ddiwylliant sydd yn mynd lot pellach na rygbi a ffermio a dwi'n falch 'mod i 'di ffeindio hynny achos mae o wedi newid fi er gwell."

Ond beth ydi swyngyfaredd?

Eglura Mhara, sy'n gweithio fel swynwraig:

"Yn draddodiadol yng Nghymru, ganrifoedd yn ôl, roedd gan bob cymuned eu swynydd. Y swynydd oedd pobl oedd yn wybodus am swyn a hud gwerin. Roeddan nhw'n rhan mawr o'r gymuned, ac yn helpu pobl y gymuned drwy greu swynion i bobl; creu swynion i amddiffyn tai a ffermydd rhag unrhyw ddrwg, swynion i wella salwch, swynion serch neu ddarogan y dyfodol drwy bob math o ddarlleniadau a ballu. Dwi'n trio cario 'mlaen y traddodiad yna.

"Yng Nghymru gynnon ni draddodiad o reibio sef gneud curses. Weithia' oedd pobl yn mynd at swynydd nid isio eu gwella ond yn gofyn am raib. Os oeddan nhw ddim yn licio Mari lawr y stryd oeddan nhw'n gofyn; "Fedri di roi rheib bach arni hi?" Efo'r pris iawn 'sa'r swynydd yn helpu.

Disgrifiad o’r llun,

Ffynnon Eilian

"Roedd gynnon ni draddodiad o ffynhonnau rheibio hefyd. Un tro roedd ffynhonnau yn sanctaidd fatha Ffynnon Eilian ar Ynys Môn yn Amlwch. Oedd hi'n ffynnon sanctaidd i ddechra'; yn ymwneud efo'r eglwys a ballu a wedyn rhywbryd mewn hanes na'th o droi a oedd pobl yn dod i roi rheibiau ynddo fo.

"Oedd pobl yn sgwennu enw'r person oeddan nhw isio rheibio ar ddarn o lechen a wedyn yn ei luchio i mewn i'r ffynnon, a oedd hynna yn rhoi rhaib arnyn nhw.

Ymarfer swyngaferdd heddiw

"Mae gen i grochan mawr a dwi'n gweithio lot efo planhigion a herbs a ballu. Dwi'n gweithio efo ysbrydion y tir so dwi'n cysylltu efo ysbryd planhigion a weithia' dwi'n defnyddio nhw yn fy swynion. Dwi'n creu bob math o bowderi ac oils.

Ffynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Offer defodau a chreu swynion Mhara

"Hefyd mae swynion yn medru bod yn siarad swyn hen, mae 'na swynion hen ti'n deud ar lafar, a mae 'na rai ti'n medru sgwennu lawr a'u rhoi nhw mewn bagia' bach i bobl wisgo.

Ffynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Ymarfer swyngyfaredd

"Mae gen i gleientiaid sy'n dod ata i ers blynyddoedd, sy'n gofyn am swynion am bob math o bethau, er enghraifft swyn gyrfa, i deimlo'n fwy hyderus yn eu swydd, neu raib i gadw egni drwg draw.

"Mae lot o bobl yn dod ata i am ddarlleniadau tarot hefyd neu i glywed rhywbeth gan ysbrydion eu teulu sydd 'di croesi drosodd."

Disgrifiad,

Gwyliwch Aled Hughes yn sgwrsio gyda'r swynwraig o Fôn, Mhara Starling

Bryn Celli Ddu; drws sy'n agor i'r oesoedd

Wrth recordio ar leoliad yn safle siambr gladdu Bryn Celli Ddu, eglura Mhara arwyddocâd safleoeddd cyn-hanesyddol iddi hi:

"Ers pum mil o flynyddoedd mae pobl 'di dod i'r safle yma ar hirddydd haf a mae o dal i weithio; siambr gladdu ia, ond mae 'na gymaint mwy 'dan ni ddim yn wybod.

"Mae 'na deimlad i'r lle; teimlad sanctaidd ac mae hynna yn 'neud chdi feddwl am betha fel ysbrydion a'r byd paranormal.

Ffynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mhara Starling yn nrws siambr gladdu Bryn Celli Ddu

"Mae y siambr yn leinio i fyny efo'r haul a gynnon ni siambrau erill dros y wlad i gyd sy'n 'neud 'run fath.

"Mae'r llefydd yma wedi bod yn sefyll am filoedd o flynyddoedd felly dwi'n teimlo fatha bod eu pwrpas wedi newid dros y blynyddoedd i wahanol gymunedau.

"Dyddia' yma , mae pagans, witches a swynwreigiau yn dod yma i gysylltu efo'r byd naturiol."

Disgrifiad o’r llun,

Safle a siambr gladdu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn

Seren TikTok

Bellach mae Mhara yn cyflwyno dros 100,000 o bobl i hen arferion a chwedloniaeth Cymru drwy gyfrwng ei fideos TikTok. Arno mae'n cyflwyno rhai o gymeriadau mawr chwedlau Cymru gan gynnwys Ceridwen a Blodeuwedd i bobl yng Nghanada, Awstralia ac America yn ogystal â chynulleidfa sy'n nes at adra. Eglura Mhara:

"Nes i ddechra' TikTok wrth fod yn bored yn lockdown. Nes i ddechra' siarad am straeon a chwedla gwerin Cymru arno fo. Nes i 'neud un fidio am stori Llyn y Fan Fach a dros nos gafodd o 30 mil o likes, wedyn nes i roi fidio arall fyny a ges i 40 mil o likes. Rŵan dwi efo 100 mil o ddilynwyr!

"Dwi reit falch bod pobl yn hoff o straeon Cymru achos mae straeon Celtaidd reit boblogaidd yn America, ond fel arfer 'mond straeon Iwerddon a'r Alban mae pobl yn nabod, a straeon llefydd fel Cymru a Cherniw yn cael eu hanwybyddu.

"Aim fi ydi cael pobl i adnabod diwylliant hudolus Cymru."

Ffynhonnell y llun, Mhara Starling
Disgrifiad o’r llun,

Mhara Starling

I glywed rhagor gwrandewch ar Siarad Moel: Podlediad Aled Hughes

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig