'Dyw e ddim yn beth da gweld tir da yn troi'n goetir'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae busnes Shon Rees yn ffinio â'r tir all droi'n goetir

Mae BBC Cymru ar ddeall y gallai fferm laeth fawr rhwng Hermon a Chrymych gael ei datblygu fel coetir newydd.

Mae'r cynlluniau wedi cael eu llunio gan gwmni coedwigaeth Tillhill, ond mae'r cwmni wedi gwrthod datgelu ar ran pa gwmni neu unigolyn maen nhw'n gweithredu.

Mae'r cynllun plannu diweddaraf, sydd wedi cael ei weld, yn nodi y gallai 85.69 hectar o dir fferm Brynfa gael ei blannu - sef tua 212 o erwau.

Mae'r cynllun yn dangos y bydd dros 70% o'r coed yn rhai bytholwyrdd.

Doedd Tillhill ddim am wneud sylw.

Fe dderbyniodd Cyngor Cymuned Crymych gopi o'r cynllun plannu gan Tillhill, sydd â swyddfa yn Llanymddyfri, rhyw dair wythnos yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Cris Tomos, Cadeirydd y Cyngor Cymuned: "Fe dderbyniwyd map yn dangos faint o'r 250 o erwau oedd yn mynd i fod o dan goedwigaeth. We ni'n synnu bod y bwriad yma wedi dod i fyny oherwydd nad oedd y gymuned wedi cael unrhyw rybudd.

"Mae'n bwysig fod yr holl gymuned a'r diwydiant yn cael dweud eu dweud, oherwydd mae gweld ffermydd teuluol yn cael eu prynu a thir amaethyddol da yn cael ei droi yn goedwigaeth - dyw e ddim yn beth da.

"Yn bendant dyw'r cyngor cymuned ddim yn cymeradwyo nac yn cefnogi'r datblygiad o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Tillhill

Yn ôl Cris Tomos, mae'n amau mai "cwmni corfforaethol" sydd wrth wraidd y cynlluniau ac mae'n synnu nad oes angen caniatâd cynllunio i droi tir amaethyddol yn goedwig.

"Mae'n anodd credu nad oes angen cael caniatâd cynllunio i wneud rhywbeth mor fawr, sydd yn effeithio gymaint ar yr ardal.

"Mi fuaswn i yn gwasgu ar Lywodraeth Cymru i ddod mewn â deddfau neu bod rhaid mynd trwy'r broses gynllunio arferol."

'Stori ddiflas i'r gymuned amaethyddol'

Mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Thomas, yn ffermio rhyw ddwy filltir o'r safle.

"Mae'n siom i fi fel amaethwr. Yn anffodus, dyma beth mae Llywodraeth Cymru am wneud," meddai.

"Falle taw Brynfa yw'r ffarm gyntaf yn Sir Benfro. Mae hyn yn stori ddiflas iawn i'r gymuned amaethyddol. Mae'n ergyd ddychrynllyd i'r economi.

"Mae'n mynd i newid y tirlun, 'sdim dowt am hynny. Mae'n newid ein cymdogaeth. Bydd ffarm ar ôl ffarm yn mynd. Mae'n gwanhau ein economi ac yn effeithio ar yr iaith Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Gallai 85.69 hectar o dir fferm Brynfa gael ei blannu â choed - sef tua 212 o erwau

Mae Penri James yn darlithio mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n rhagweld y bydd mwy o ffermydd yn cael eu prynu i gloi carbon yn y dyfodol.

"Mae yna bolisïau yn ymwneud â defnydd carbon a gorbwyso defnydd carbon. Yn ôl, fel mae'n edrych, hynny sydd yn gyrru hyn.

"Mae rhywun sydd yn rhan o'r cynllun wedi gweithio mas bod cynhyrchu a gwerthu carbon yn llawer mwy proffidiol na ffermio ar y tir yma.

"Y farchnad sydd yn gyrru hyn a pholisïau i gloi carbon. Mae'r polisïau i gloi carbon yn mynd i fod yn fwy amlwg yng ngolwg ffermwyr a phawb arall.

"Mater o amser cyn y byddwn ni yn mesur elw yn nhermau bob tunnell o garbon. Mae arwynebedd coedwigaeth Prydain yn 13% sydd yn llawer iawn llai na gwledydd tebyg - 30% yn Ffrainc a 40% ar draws Ewrop.

"Mi allech chi ddadlau bod yna le i gael mwy o goetiroedd ar draws Prydain i gloi'r carbon... Mae hyn yn mynd i fod yn fwy cyffredin, mae gen i ofn."

'Heb glywed dim'

Mae nifer o gymdogion sydd yn ffinio gyda thir Brynfa yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r cynllun.

Un o'r rheini yw Shon Rees o gwmni Midway Motors. Mae ei deulu wedi rhedeg y garej a'r cwmni bysys ar yr un safle am bron i 90 mlynedd.

"Y broblem fwyaf yw'r ansicrwydd o beth sydd yn digwydd", meddai.

"Ni wedi clywed gan bobl leol bod yna blannu coed yn mynd i ddigwydd, ond 'dyn ni heb glywed dim. Mae'n rhaid rhannu'r cynlluniau a dweud yn syth beth sydd yn digwydd, a bod yn straight gyda phobl, a [rhoi cyfle i] bobl roi eu barn nhw."

Doedd cwmni Tillhill ddim yn barod i wneud cyfweliad gyda BBC Cymru ar hyn o bryd.

Pynciau cysylltiedig