Arolwg byd natur: 'argyfwng' cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd

Mae arolwg gan 25 o fudiadau cefn gwlad wedi dweud bod bywyd gwyllt Cymru a'r DU 'mewn argyfwng'.

Yn ôl yr adroddiad mae niferoedd hyd at 60% o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion wedi gostwng yn y degawdau diwethaf, er gwaethaf ymgyrchoedd cadwraeth.

Anieiliaid a phlanhigion dan fygythiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae niferoedd adar, pryfaid a phlanhigion wedi gostwng dros y 50 mlynedd diwethaf

Mae'r adroddiad yn dangos bod o leiaf un o bob deg o rywogaethau a aseswyd fel rhan o'r gwaith mewn perygl o ddiflannu'n llwyr o gefn gwlad.

Er hynny mae'r adroddiad yn cydnabod nad oes digon o wybodaeth am y sefyllfa yng Nghymru yn benodol.

Cafodd 3,148 o rywogaethau ledled y DU eu hastudio fel rhan o'r ymchwil, sy'n dangos bod 60% wedi prinhau yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Mae dros hanner o'r rhain wedi prinhau yn fawr.

Mae niferoedd adar fel y gylfinir, y gornchwiglen a'r cwtiad aur wedi gostwng, tra bod gloÿnnod byw fel y brithegion perlog Cymreig yn prinhau. Mae un o bob saith planhigyn mewn perygl hefyd.

Achosion

Ymysg yr rhesymau tu ôl i'r lleihad mae datblygiad o dir yng nghefn gwlad, sefydliad rhywogaethau anfrodorol a newid hinsawdd.

Mae newidiadau ym myd amaeth hefyd yn ffactor, yn ôl yr arolwg.

Mae dros 70% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr, a mae'r ymchwilwyr yn credu bod symud oddi wrth ffermio cymysg a newid mewn dulliau ffermio yn cyfrannu at ostyngiad bywyd gwyllt.

Ond yn ôl undeb amaethwyr yr NFU mae'n annheg i roi bai ar ffermwyr, ac mae angen i'r cyhoedd gydnabod y gwaith mae amaethwyr yn ei wneud i sicrhau dyfodol bywyd gwyllt.

"Ni fydd unrhyw ffermwr yn croesawu'r newyddion bod niferoedd bywyd gwyllt yn gostwng," meddai llywydd NFU Cymru, Ed Bailey.

"Yn wir bydd casgliad yr adroddiad yn annisgwyl iawn i nifer o ffermwyr ac ymwelwyr i gefn gwlad, o ystyried y pwyslais mae amaethwyr yn ei roi ar reoli'r amgylchedd. Mae'n annheg i roi'r bai yn gyfleus ar ffermwyr a newidiadau i'w dulliau."

'Hyrwyddo Bioamrywiaeth'

Yn ôl un o awduron yr adroddiad mae angen gweithredu dros y degawd nesaf neu wynebu difodiant rhywogaethau yng nghefn gwlad.

"Mae Cymru wedi ei bendithio â chyfoeth o fywyd gwyllt ond mae'n prinhau, mae'r pwysau arno'n cynyddu a nid yw ein hymateb yn ddigon uchelgeisiol," meddai Dr Trevor Dines.

Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithredu i sicrhau dyfodol bywyd gwyllt yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae arnom angen cydnabodmai byd natur sy'n cynnal ein bywydau bob dydd a'i fod yn hanfodol i'n lles a'n ffyniant," meddai prif swyddog gweithredol ymddiriedolaethau natur Cymru, Rachel Sharp.

"Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru hyrwyddo ein bioamrywiaeth, ac arwain ymdrechion i'w hadfer."

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio ym Mae Caerdydd nos Fercher gan y cyflwynydd Iolo Williams, tra bydd hefyd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiadau yn Llundain, Caeredin a Belfast.