Mapiau yn dangos realiti posibl newid hinsawdd fesul ardal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mapiau yn dangos y gwahaniaeth posibl mewn gorboethi a lleithder rhwng 2020 a 2060 yng NghymruFfynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r mapiau yn dangos y gwahaniaeth posib mewn gorboethi a lleithder rhwng 2020 a 2060 yng Nghymru os nad oes newid mewn allyriadau carbon

Beth fydd yn digwydd i'ch ardal chi os nad ydy'r byd yn lleihau faint o garbon rydyn ni'n ei ryddhau i'r amgylchedd?

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu mapiau, dolen allanol sy'n rhoi darlun o'r effaith bosib ar lefel leol, a'r llefydd sydd yn eu gofal, erbyn 2060 os yw pethau'n cario 'mlaen fel maen nhw.

Y darlun cyffredinol, meddai Keith Jones, arbenigwr newid hinsawdd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd wedi bod yn gweithio ar y mapiau, ydy bod yr hinsawdd yn mynd i fynd yn "eithriadol o boeth" yn enwedig yn y de ddwyrain heb ymyrraeth.

Mae'r mapiau hefyd yn dangos fesul grid hecsagon 5km beth yw'r sefyllfa waethaf posib - "worst case scenario" - o ran stormydd, tirlithriadau ac ansefydlogrwydd pridd os yw'r byd yn dal i ryddhau carbon fel mae ar hyn o bryd.

Gorboethi a lleithder

Gyda Llundain yn barod yn gweld effeithiau gorboethi mae mapiau 2060 yn dangos y gallai'r rhan fwyaf o Loegr weld tymheredd eithafol; mae hefyd yn rhagweld y bydd rhannau o dde Cymru, Bro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd yn gweld gwres eithriadol erbyn 2060 os nad oes newid.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map yn dangos effaith bosib newid hinsawdd ar wahanol elfennau o'r tywydd mewn 40 mlynedd - gan gynnwys gorboethi a lleithder yn y lluniau yma

"Pan mae'r hecsagon yn goch be' mae'n feddwl ydy bod 'na dros 15 diwrnod dros 30C yn yr hecsagon yna: dyna pa mor boeth mae'n mynd i fynd os ydi bob dim arall yn aros 'run peth, yn enwedig allyriadau carbon," meddai Keith Jones.

"Unrhyw le sydd â lot o goncrit a tarmac ac wedi'i adeiladu, fe fydd hi'n boethach byth yno."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Map yr Ymddiriedolaeth yn dangos gwres eithriadol posibl ym Mro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd, 2060

Byddai'n effeithio ar iechyd, pridd ac ar isadeiledd, meddai.

"I lawr yn y de rydyn ni wedi dechrau cael problemau efo un neu ddau o lefydd [yr Ymddiriedolaeth] efo plwm ar y to - mae'r plwm yn warpio achos mae o'n gorboethi wedyn mae hwnna wrth gwrs yn gadael glaw i fewn."

Tirlithriadau

Un o'r ardaloedd sy'n goch ar y map tirlithriadau yw arfordir gogleddol Pen Llŷn, lle mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am bentref a thraeth Porthdinllaen.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

"Os ydi bob dim arall yn chwarae 'run peth fydd y pentref ddim yna mewn 50 mlynedd," meddai Keith am Borthdinllaen.

Mae cyfuniad o dir ar lethr, y math o bridd a'r cynnydd yn lefel y môr yn cyfrannu at y bygythiad posibl yno, meddai.

Ffynhonnell y llun, SHEILA VAQUERIZO
Disgrifiad o’r llun,

Mae bygythiad gwirioneddol i draeth a phentref Porthdinllaen meddai Keith Jones

"Os ti'n sôn am lefel y môr yn codi fyny at 1.1 metr ar gyfartaledd, a pan mae gen ti bentref wedi ei adeiladu ar y traeth, does 'na'm llawer o le i gilio nôl."

Mae'r ardal yma wedi gweld tirlithriadau yn barod, gan gynnwys yn 2001 pan laddwyd dynes wedi i geir syrthio i'r môr mewn tirlithriad yn Nefyn., dolen allanol

Rai blynyddoedd cyn hynny roedd tirlithriad gerllaw yn Pistyll hefyd.

Stormydd

Mae'r diffiniad o storm yn golygu gwynt a glaw digon difrifol i achosi difrod.

"Mae glaw ar ben ei hun yn achosi llifogydd, ond difrod ydy storm - chwythu pethau i lawr, toeau yn malu, coed yn chwalu i mewn i dai a'r math yna o beth.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

"Pan mae gwynt yn dod at y tir, yn enwedig gwynt cynnes, ac yn taro tir uchel mae'n codi, ac wrth godi mae'n oeri ac felly'n gollwng glaw.

"Dyna pam mae effaith stormydd yn fwy tu mewn i'r tir nag ydyn nhw ar yr arfordir."

Un o'r ardaloedd sydd wedi troi yn goch ar fap 2060 yw ardal Ystradgynlais a Rhaeadr Aberdulais lle gallai stormydd greu difrod.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Map 2060 yn dangos lleoliadau yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn grid coch o ran stormydd

"Mae'r tywydd eithriadol yma wedi digwydd yn barod - mae'n dod ac yn cilio a rydyn ni'n anghofio. Rydyn ni wedi anghofio am lifogydd mawr storm Desmond yn llwyr - ddaru 1,500 o bontydd gael eu chwalu yn eiddo'r Ymddiriedolaeth yn Ardal y Llynnoedd."

Pridd yn crebachu a chwyddo

Mae hyn yn digwydd i bridd clai yn enwedig neu bridd ag unrhyw ddeunydd organig ynddo - soil heave yn Saesneg.

Mae'r pridd yn chwyddo efo mwy o law nes ei fod fel petai adeilad "wedi ei godi ar drampolîn" ac yna yn crebachu gyda sychder a gwres "nes mae fel concrid", meddai Keith.

Mae'n gallu arwain at ansefydlogi tir a dymchwel adeiladau; mae'r Ymddiriedolaeth yn gweld waliau yn eu heiddo yn disgyn yn barod oherwydd hyn.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiridolaeth Genedlaethol

Mae'r map yn dangos y gallai hyn fod yn fygythiad yn ardal Harlech ond maen nhw wedi gweld effeithiau tebyg yn barod yn Ysbyty Ifan, meddai Keith.

I gael darlun llawnach mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda sefydliadau eraill fel CADW a Historical Scotland i greu mapiau eraill fis Mai ar ôl edrych ar 16 o fygythiadau eraill fel sychder, pla, llifogydd dŵr daear a thanau gwyllt.

Ar ôl darlunio'r sefyllfa waethaf allai ddigwydd, bwriad yr Ymddiriedolaeth a'r mudiadau eraill sy'n cydweithio gyda nhw ydy gweld beth yw eu hopsiynau o ran beth i'w wneud gyda'u heiddo os ydyn nhw'n wynebu'r dyfodol yma.

Ffynhonnell y llun, Nigel Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermdy'r Ymddiriedolaeth yn Nyffryn Mymbyr wedi gweld effaith gwynt a glaw difrifol cyson ar yr adeilad yn barod

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dechrau ar fesurau i warchod eu hadeiladau a'u tir rhag effeithiau newid hinsawdd yn barod - yn eu ffermdy yn Nyffryn Mymbyr yn Eryri mae talcen y tŷ wedi ei orchuddio â llechi i geisio ei amddiffyn rhag y cynnydd mewn gwynt a glaw difrifol cyson.

Torri carbon yn gyfan-gwbl

Mae modd gweld cyfleoedd hefyd efo'r cynnydd mewn tymheredd, meddai Keith, gydag eiddo mewn lle cynnes yn denu mwy o ymwelwyr a gwneud mwy o arian.

Mae hefyd yn golygu y gallai Prydain fod yn lle gwell ar gyfer tyfu grawnwin.

"Ti'n gwybod bod 'na rywbeth yn newid achos mae'r cwmniau Champagne wrthi yn prynu ardaloedd o sir Caint ar y funud," meddai.

Ond mae'r mapiau ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (mae gan yr Alban ymddiriedolaeth ar wahân) yn dangos pa mor gyflym mae angen torri allyriadau carbon, meddai Keith.

Y targed yw net zero meddai - cynllun mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio at ei gyflawni a tharged mae angen i bawb weithredu arno ar unwaith, yn ôl gwyddonwyr.

BBC
Ar y funud does na ddim byd yn mynd i lawr o ran allyriadau carbon dros y byd. Mae na lot o siarad am net zero ond dydio ddim yn cael ei wireddu ar y funud
Keith Jones

Mae net zero yn golygu bod allyriadau carbon mewn cydbwysedd gyda'r carbon sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer, er enghraifft drwy gael ei amsugno gan fforestydd.

"Maen nhw'n dweud mai 2030 ydy'r tipping point," meddai Keith.

"Ar y funud does 'na ddim byd yn mynd i lawr o ran allyriadau carbon dros y byd. Mae 'na lot o siarad am net zero ond dydi o ddim yn cael ei wireddu ar y funud."

Os yw hynny yn parhau bydd tymheredd y byd yn mynd yn uwch na'r ffigwr o 1.5C, sef y cynnydd uchaf y gall y byd ddygymod ag o, gan fesur o'r cyfnod cyn-ddiwydiannol, yn ôl gwyddonwyr.

Hyd yn oed os llwyddir i gadw at y ffigwr yma neu is, rhaid inni fod yn barod am ddigwyddiadau tywydd eithafol, meddai Keith.

"Oherwydd y carbon sydd yn ein hamgylchedd ar y funud mae tymheredd y ddaear yn mynd i godi dim ots beth wnawn ni.

1.5C

"Rydyn ni ar 1.1C ar y funud - er mwyn inni arbed mynd dros 1.5C rydyn ni'n gorfod mynd lawr i net zero mor gyflym â fedran ni.

"Rydyn ni'n gweld yr effeithiau rŵan efo'r 1.1C. Y stormydd a'r tywydd rydyn ni'n cael heddiw ydi'r minimum rydyn ni'n mynd i'w gael.

"Ti'n sôn am peak temperature o dros 40C ym Mhrydain - dydyn ni erioed wedi cael hynna o'r blaen. Mae hynna'n eithriadol o boeth. Mae pobl yn mynd i fod yn marw, dydi planhigion ddim yn mynd i fod yn y llefydd maen nhw i fod, mae tai yn mynd i orboethi.

"Os ydy hyn yn digwydd yna mae'r mapiau yma yn mynd i gael eu gwireddu.

"Dwi ddim yn meddwl bod ni'n anobeithio'n llwyr ond mae pawb yn chwilio am rywun arall i sortio fo allan, lle mae'n gyfrifoldeb i bawb."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig