Cynllun wedi'i lansio ar gyfer dyfodol pentref Fairbourne
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw mewn pentref arfordirol yng Ngwynedd yn galw am atebion dros ei ddyfodol tymor hir, wrth i Gyngor Gwynedd lansio cynllun datblygu ar gyfer y pentref.
Bydd y gwaith o gynnal a chadw amddiffynfeydd môr yn Fairbourne ger Y Bermo yn dod i ben ymhen 40 mlynedd, ac mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod efallai y bydd yn rhaid iddo ddechrau "dadgomisiynu'r pentref" yn 2045 a symud trigolion oddi yno.
Yn sgil yr ansicrwydd o ran dibrisio cartrefi a niweidio bywyd cymunedol, mae partneriaeth Fairbourne wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus: 'Symud Ymlaen ar fframwaith arfaethedig i gyfarch yr heriau amrywiol y bydd y gymuned yn ei hwynebu dros y degawdau nesaf.'
Dywed rhai bod angen rhagor o drafod am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw a'u cartrefi os yw'r pentref yn mynd i gael eu chwalu gan y môr.
Mae'r cynllun Symud Ymlaen yn cynnwys pum cynllun penodol y gellir eu datblygu gan sefydliadau partner dros y blynyddoedd i ddod:
Cynllun Rheoli Risg Llifogydd;
Cynllun Rheoli Pobl a'r Amgylchedd Adeiledig;
Cynllun Rheoli'r Isadeiledd;
Cynllun Rheoli Busnesau;
Cynllun Rheoli'r Amgylchedd Naturiol.
Mae Cyngor Gwynedd yn arwain partneriaeth i gydlynu'r hyn sy'n digwydd yn Fairbourne, ac yn dweud bod rhai o'r penderfyniadau ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ôl 2045 allan o'i ddwylo.
Cyn bwrw ymlaen â'r fframwaith mae trigolion a sefydliadau lleol yn cael eu hannog i gyflwyno sylwadau ac adborth ar y cynlluniau a nodi materion ychwanegol y maent yn teimlo sydd angen sylw penodol.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, sy'n arwain ar y mater ar Gabinet Cyngor Gwynedd:
"Mae gennym gyfrifoldeb fel cyrff cyhoeddus i ystyried yn ofalus yr holl ddata sydd ar gael a chyngor arbenigol annibynnol ac i drafod yr opsiynau posib gyda phobl leol.
"Byddai anwybyddu'r holl dystiolaeth o'r risgiau cynyddol o lifogydd difrifol i'r gymuned yn anghyfrifol.
"Fel partneriaeth, rydym yn gwerthfawrogi bod hyn yn sefyllfa anodd iawn i drigolion lleol ac mae pob ymdrech wedi cael ei wneud i gefnogi'r gymuned drwy'r broses yma a byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Mae hon yn sefyllfa ddigynsail ac mae yna lawer o gwestiynau anodd y bydd angen i ni eu hateb drwy weithio gyda'n gilydd. Dyna pam yr wyf yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma," meddai.
'Gilotîn'
Dywedodd Malcolm Flynn sy'n byw yn Fairbourne: "Fe roddodd y cyngor ymrwymiad y bydden nhw'n gwneud eu gorau i amddiffyn y pentref am 40 mlynedd. Ar ôl hynny, gallai unrhyw beth ddigwydd.
"Mae fel y gilotîn yn hongian uwch eich pen, yn aros i ollwng.
"Mae'r cyngor wedi dibynnu ar farn un ymgynghorydd, ac rydw i'n amau bod yna lawer o wahanol safbwyntiau a gwahanol bethau i'w hystyried."
'Safon dda'
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r amddiffynfeydd môr ac afonydd yn Fairbourne.
Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon dda o amddiffyniad rhag llifogydd i bobl yn Fairbourne tan 2054, cyhyd â bod cyllid ar gael a'i bod yn gynaliadwy i wneud hynny.
"Pedair blynedd yn ôl, fe wnaethom gwblhau cynllun gwerth £6.8 miliwn i helpu amddiffyn y pentref.
"Mae amddiffyn Fairbourne yn her gyson - rydym yn gweithio yn erbyn natur i geisio lleihau'r risgiau mewn adeg pan mae'r hinsawdd yn newid a lefelau'r môr yn codi.
"Rydym yn gwerthfawrogi pryder y gymuned am ei dyfodol a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phobl leol a sefydliadau allweddol i amddiffyn y pentref yn y tymor byr a'r tymor canolig."
Yn ôl Cyngor Gwynedd maen nhw wedi cyfarfod gyda phobl leol a nifer o bartneriaid allweddol eraill dros 300 o weithiau i drafod Fairbourne ers nifer o flynyddoedd.
"Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ymgysylltu amrywiol gan gynnwys digwyddiadau galw heibio rheolaidd, seminarau, gweithdai, ymweliadau a thrafodaethau â thrigolion ynghyd â chylchlythyrau i'r holl breswylwyr a digwyddiadau cyhoeddus," meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
"Nod y gweithgareddau hyn yw sicrhau bod trigolion lleol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac i drafod materion gyda nhw'n uniongyrchol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016