Sut allwn ni achub rhai o anifeiliaid brodorol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr anifeiliaid sydd mewn peryg yng NghyrmuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr anifeiliaid sydd mewn peryg yng Nghyrmu

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Senedd Cymru mae 17% o anifeiliaid gwyllt Cymru mewn perygl o ddiflannu. Ond gyda'ch help chi, gellir dod â nhw'n ôl o'r dibyn.

Dyma rai o'r anifeiliaid gwyllt sydd mewn perygl yng Nghymru, a sut y gallwch chi helpu i adfer eu niferoedd.

Gwenyn

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwenyn mêl

Mae 24 rhywogaeth o wenyn yn y DU.

Mae gwenyn yn hanfodol bwysig ar gyfer peillio cannoedd o rywogaethau o blanhigion, gan gynnwys llawer o gnydau. Ond maen nhw dan fygythiad oherwydd y newid yn yr hinsawdd.

Mae gwenyn yn chwilio am rai mathau penodol o flodau. Mae angen blodau byr, agored ar y rhai sydd â thafodau byrrach, gyda neithdar o fewn cyrraedd hawdd. Mae hyn yn cynnwys blodau o'r teulu llygad y dydd ac alliums, sydd â nifer o flodau bach ar un coesyn. Ond i'r gwenyn sydd â thafodau hir mae blodau dyfnach fel gwyddfid, sydd â llawer mwy o neithdar fesul blodyn yn fwy addas.

Credwch neu beidio ond mae rhai rhywogaethau gwenyn hyd yn oed wedi troi at 'ladrad' neithdar drwy dorri twll yng ngwaelod y blodyn a chyrraedd y ffordd honno! Mae'r blodyn yn colli allan oherwydd mae hyn yn golygu nad yw ei baill yn cael ei gludo i flodau eraill gerllaw.

Dyma dri o flodau allwch chi eu tyfu yn eich gerddi i helpu'r gwenyn:

1. Lelog - Mae lelog yn dod mewn saith lliw ac yn hawdd i'w tyfu. Mae'r rhan fwyaf yn rhyddhau persawr melys i wneud yn siŵr bod y gwenyn a'r gloÿnnod byw yn dod yn ôl am fwy.

2. Lafant - Mae planhigion lafant yn wych i wenyn mêl - o bosib oherwydd eu hamser blodeuo hir a'r ffaith eu bod yn llawn neithdar.

3. Blodau haul - Mae blodau haul yn dal gyda phennau mawr, sy'n cynnwys blodau llai y tu mewn. Mae'n faes chwarae neithdar a phaill i wenyn, ond maent hefyd yn elwa o'r cnwd oherwydd eu bod yn cynhyrchu hadau ac olew.

Ffynhonnell y llun, Victoria Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r DU wedi colli 97% o'i flodau gwyllt ers yr 1930au

Draenogod

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Yn anffodus, ers troad y ganrif, mae nifer y draenogod wedi gostwng yn gyflym. Yn yr 1950au amcangyfrifwyd bod 36.5 miliwn o ddraenogod ym Mhrydain, erbyn heddiw credir fod tua 1 miliwn ar ôl.

Mae poblogaeth y mamaliaid pigog hyn wedi sefydlogi mewn ardaloedd trefol ond mae'n dal i ostwng yn y wlad. Mae ymgyrchwyr wedi cysylltu'r gostyngiad hwn â diffyg gwrychoedd ar dir fferm, ond gellir cysylltu'r cwymp hefyd â chynnydd y traffig yn y DU, a phoblogaeth moch daear - unig ysglyfaethwr y draenog.

Ffynhonnell y llun, RSPCA

Mae yna nifer o ffyrdd i helpu'r creaduriaid annwyl hyn.

Os gwelwch un yn ystod y dydd ac mae'n edrych yn sâl, dewch ag ef y tu mewn a'i roi mewn blwch cardfwrdd ag ochrau uchel gyda hen dywel ar y gwaelod i'r draenog guddio oddi tano. Rhowch y blwch yn rhywle tawel a darparu ychydig o ddŵr ffres a rhywbeth i'w fwyta (maen nhw'n caru bwyd cathod a chŵn) yna ffoniwch Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Draenogod yn cael gofal

Ymhlith y ffyrdd eraill o helpu mae creu tyllau bach sy'n gyfeillgar i ddraenog ar waelod ffensys yn dda iddyn nhw fynd o ardd i ardd.

Mae hefyd modd adeiladu cartref draenog yn eich gardd gefn.

Y Wiwer Goch

Ffynhonnell y llun, John Bridges
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth y wiwer goch o dan fygythiad oherwydd y gwiwerod llwyd.

Gyda'i ffwr coch, cynffon brysglyd a chlustiau miniog, mae'r wiwer goch yn un o anifeiliaid brodorol mwyaf nodedig y DU.

Mae eu poblogaeth wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd oherwydd cystadleuaeth gan y wiwer lwyd, a chlefyd y frech wen.Dim ond mewn ychydig rannau o'r wlad y gellir dod o hyd i wiwerod coch gwyllt. Y lle gorau i'w gweld yng Nghymru yw coedwigoedd ar Ynys Môn.

Mae colli cynefin yn ffactor enfawr yn nirywiad y wiwer goch. Felly os ydych chi eisiau helpu i ailadeiladu eu poblogaeth, lle da i ddechrau yw cefnogi mentrau coedwigaeth leol a deisebu yn erbyn gwasgariad trefol.

Hefyd os welwch i unrhyw wiwerod coch, gallwch roi gwybod i'ch cymdeithas wiwer goch leol; bydd hyn yn helpu ymchwilwyr i adeiladu gwell darlun o niferoedd y boblogaeth, gan ganiatáu iddynt roi strategaethau cadwraeth fwy effeithiol ar waith.

Ffynhonnell y llun, RIck Thornton
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth y wiwer goch yn sefydlogi serch hynny, ac mae'r ymdrechion i adfer eu poblogaeth trwy raglenni bridio yn profi'n ffrwythlon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes modd gweld yr anifeiliaid yma yng Nghymru rhagor, ond mae eraill gallwch chi helpu achub.

Llygod Pengrwn

Ffynhonnell y llun, Terry Whittaker/2020VISION
Disgrifiad o’r llun,

Llygoden Pengrwn

Yn aml maent yn cael eu camgymryd am lygod mawr, ond mae gan lygod pengrwn drwynau byrrach, clustiau llai amlwg ac fwy crwn. Maent hefyd yn bwyta hyd at 80% o bwysau eu corff y dydd.

Maent yn byw ar hyd glannau afonydd sy'n llifo'n araf ac ar un adeg roeddent yn olygfa gyffredin mewn llawer o afonydd yng Nghymru.

Mae poblogaeth y llygod pengrwn wedi gostwng 94% dros y 30 mlynedd diwethaf ac fel y wiwer goch, mae eu dirywiad i wedi bod oherwydd cyflwyniad rhywogaeth anfrodorol arall: y minc Americanaidd.

Mae llygod pengrwn yn byw ar lannau afonydd, felly y tro nesa' 'dy chi'n mynd am dro, ceisiwch beidio troedio mor agos i lannau afon. Mae'n bosib eich bod yn camu ar gartref un o deuluoedd y creaduriaid annwyl yma.

Ffynhonnell y llun, Tom Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond tua 4,500 Llygoden Pengrwn sydd ar ôl yng Nghymru

Y Barcud Coch

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid golygfa prin yw'r Barcud Coch bellach.

Er y pryder am rywogaethau eraill, mae ailgyflwyno'r Barcud Coch wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru.

Cafodd yr aderyn yma ei wthio bron i ddifodiant, gyda llond law o barau yng nghoedwigoedd dyfnaf Cymru.

Ond nawr mae modd eu gweld nhw hyd a lled y wlad.

Roedd cynnydd mewn niferoedd y Barcud Coch yn 1026% rhwng 1995-2014.

Mae modd gwylio degau ohonyn nhw bob diwrnod o'r flwyddyn yn cael eu bwydo mewn canolfannau fel Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth neu Ffarm Gigrin ym Mhowys.

Wrth ddilyn y camau iawn, mae modd cynyddu ffigyrau anifeiliaid prin eraill fel ddigwyddodd i'r Barcud Coch.

Pynciau cysylltiedig