10,000 wedi marw â Covid-19 ers dechrau'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid-19 ers dechrau'r pandemig wedi pasio 10,000 yng Nghymru bellach.
Hyd at 8 Ebrill mae Covid wedi cael ei nodi ar dystysgrif marwolaeth 10,019 o bobl, yn ôl ffigyrau wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Cafodd 56 o farwolaethau eu cofnodi yr wythnos honno ble roedd Covid yn ffactor - o leiaf un ym mhob sir.
Mae hynny yn ostyngiad bychan o'r 61 o farwolaethau a gofnodwyd yr wythnos flaenorol.
Mae'r swyddfa ystadegau hefyd yn cofnodi'r hyn a elwir yn "farwolaethau ychwanegol", sef y gwahaniaeth rhwng y ffigwr ar gyfer marwolaethau o bob achos, a'r nifer cyfartalog dros bum mlynedd mewn cyfnod heb bandemig.
Ers Mawrth 2020, roedd 6,520 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru na'r ffigwr cyfartalog.
Bu cyfanswm o 681 o farwolaethau o bob achos yn yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru - 13 (1.9%) yn uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.
O'r holl farwolaethau hynny, 8.2% oedd yn ymwneud â Covid-19.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022